Mae deliwr cyffuriau o Fangor wedi cael ei garcharu am dair blynedd.
Cafodd Leon Wellin, 25 oed, ei gyhuddo sawl gwaith o feddu cyffuriau Dosbarth A a B hefo'r bwriad i gyflenwi, yn dilyn chwiliad yn ei gartref ym mis Gorffennaf 2025.
Gweithredodd swyddogion warant yng nghartref Welling yn dilyn pryderon a adroddwyd am ei gysylltiad hefo cyflenwi cyffuriau.
Atafaelwyd casgliad o heroin, cocên a chanabis o'r cyfeiriad.
Ar yr un diwnrod, cafodd Welling ei arestio mewn siop yng nghanol y ddinas, lle'r oedd yn ceisio gwerthu ffôn.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, cafodd Welling ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar..
Dyweddod PC Scott Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd Welling yn camfanteisio ar yr aelodau mwyaf bregus o'r gymuned, gan dargedu defnyddwyr cyffuriau sy'n gwella ac achosi effeithiau dinistriol arnyn nhw er budd ariannol iddo'i hun."
"Da ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i ymchwilio i'r holl wybodaeth am gyffuriau sy'n cael eu hadrodd i ni er mwyn diogelu a gwarchod holl drigolion Bangor."
"Buaswn i'n annog unrhyw un hefo gwybodaeth am gyffuriau yn eu hardal leol nhw i roi gwybod i'r heddlu drwy ein gwefan ni, neu drwy alw 101 yn anhysbys drwy Crimestoppers."


Bae Cemaes: carcharu dyn am werthu cocên
Foden wedi ‘rhwystro’ ymchwiliad yn erbyn athro arall
Carcharu dyn o Amwlch ar ôl darganfod cyffuriau
Bangor: cau pont droed wedi tân bwriadol
Pentraeth: dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad