Mae dyn o Gaergybi wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o ymosod yn rhywiol.
Cafodd Joshua Wren, 33 oed, hefyd ei gyhuddo o tagu'n fwriadol ac ymddygiad rheolaetol a gorfodaethol.
Mae hefyd wedi'i gyhuddo o fod â chyffur Dosbarth B yn ei feddiant.
Cafodd Wren ei gadw yn y ddalfa pan ymddangosodd yn llys ynadon Caernarfon ddydd Mawrth ac mi wnaiff ymddangos cyn barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ar ddydd Llun 13 Ebrill.


Strategaeth economaidd newydd i Wynedd
Dirwy i ddynes am dwyll cosmetig
Caernarfon: datgelu hanes cudd Afon Cadnant
System barcio newydd yng Nghoedwig Niwbwrch
Cronfa yn ailagor ar gyfer prosiectau cymunedol