Mae prosiect fydd ym addiffyn cartrefi a busnesau yng Nghaernarfon rhag llifogydd wedi datgelu rhan o hanes sydd wedi ei guddio o dan strydoedd y dref.
Mae £675,000 yn cael ei wario ar amddiffynfeydd rhag llifogydd ar gyfer bron i 120 o eiddo, gan gynnwys 80 o gartrefi.
Mae'n bosib na fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol fod yr Afon Cadnant yn llifo o dan eu traed wrth iddynt gerdded o gwmpas siopau, caffis a thafarndai tre'r Cofis.
Ac wrth wneud y gwaith, mae peirianwyr o Cyngor Gwynedd wedi gallu gweld llwybr tanddaearol yr afon sydd wedi bod yn guddiedig ers cenedlaethau.
Dwyeddod Emyr Gareth, prif beiriannydd: "Er fod yr Afon Cadnant yn afon fychan, mae wedi dylanwadu ar ddatblygiad tref Caernarfon ers canrifoedd."
Ychwanegodd: "Rydan ni wedi gosod sgrin newydd sy'n atal sbwriel a malurion rhag cael mynd i sianel yr Afon Cadnant. Petai rhwystr i lif yr afon o dan strydoedd y dref, byddai yn gallu achosi llifogydd a phroblemau mawr i'r gymuned leol."
Fel rhan o'r gwaith, anfonwyd drôn i ddilyn cwrs yr afon o dan y ddaear am 900 metr, gan ddatgelu am y tro cyntaf ers cenedlaethau yr hyn sy'n digwydd o dan ein traed.
I lawer, tan heddiw, enwau strydoedd fyddai'r unig gliw am yr hyn sydd wedi ei guddio ond bellach mae'r ffilm dynnwyd gan y drôn i'w weld arlein.
Mae'r Afon Cadnant yn diflannu o dan y ddaear ger y gylchfan rhwng Ffordd Llanberis, Ffordd Bethel a Thanrallt. Dyma ble mae'r sgrin sbwriel newydd wedi ei gosod fel rhan o'r prosiect atal lifogydd.
Mae'r afon yn llifo trwy gyfres o gwlfertiau cudd o dan y dref. Yn ystod yr Oes Fictoriaidd, ehangwyd y cwlfert.
Mae ardal Penllyn (ble saif y maes parcio aml-lawr heddiw) yn allweddol. Am tua 800 mlynedd, roedd llyn bach yma. Dyma wrth gwrs yw gwraidd enwau strydoedd Penllyn a Stryd y Llyn. Adeiladwyd y darn olaf o'r cwlfert yma yn 1996-97.
Mae'r cwlfert yn cynnwys nifer o ddarnau unigryw oherwydd ei oedran a'i natur adeiladwaith.
Roedd y llyn yn gwagio drwy fwâu pont, gan droi melin ddŵr ymhellach i lawr ei thrywydd. Mae'r nodweddion hyn wedi'u hadlewyrchu yn enwau strydoedd fel Ffordd y Felin a'r Bont Bridd.
Mae'r fideo drôn yn dangos yr afon yn cwympo oddeutu 4 metr, o dan lôn Bont Bridd ger Canolfan Penllyn.

Yn 1868, cafodd yr Afon Cadnant ei sianelu i ffos yn Noc Fictoria gan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon. Hyd heddiw, mae'r afon yn dod allan i'r Fenai yn ardal y Doc a phan fo'r llanw'n caniatáu, gellir gweld swigod yn codi i'r wyneb ger adeilad yr Archifdy.
Dyweddod y Cynghorydd June Jones, aelod y cabinet dros peirianneg: "Dros y blynyddoedd, mae isadeiledd Caernarfon wedi cael ei siapio gan yr afon."
"Ein blaenoriaeth ni heddiw wrth gwrs ydi amddiffyn cartrefi a busnesau'r dref rhag llifogydd a dwi'n hynod falch ein bod wedi gallu cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a buddsoddi yn y prosiect yma er budd y gymuned leol."
"Mae'r fideo a dynnwyd fel rhan o'r gwaith peirianyddol yn hynod ddifyr a dwi'n siŵr y bydd gan bobl ddiddordeb dysgu am yr afon. Pwy feddylia fod prosiect cyfoes a defnydd o dechnoleg modern wedi ein helpu i gysylltu â hanes tref Caernarfon."
Mae'r cynllun amddiffyn rhag llifogydd yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
Ychwanegodd Dirpwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies: "Bydd ein buddsoddiad yn y cynllun hwn, sydd bron i £590,000, yn cyflawni buddion hir-dymor o dros 119 eiddo yn yr ardal - ac mae'n enghraifft arall o'n hymrwymiad diwyro i roi sylw i'r heriau rydym yn eu hwynebu yn sgil newid yn yr hinsawdd."
"Yn ddiweddar, rydym wedi buddsoddi dros £377m i warchod cymunedau ledled Cymru rhag tywydd sy'n gynyddol eithafol ac anodd i'w ragweld, gyda chyllid digynsail eleni yn codi i £85 miliwn."


Strategaeth economaidd newydd i Wynedd
Dirwy i ddynes am dwyll cosmetig
Caergybi: cyhuddo dyn o ymosodiad rhywiol
System barcio newydd yng Nghoedwig Niwbwrch
Cronfa yn ailagor ar gyfer prosiectau cymunedol