Mae caffi newydd sbon wedi agor yn swyddogol yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Mae'n nodi cam olaf rhaglen o welliannau i drawsnewid prif gyntedd yr ysbyty, a gostiodd £225,000 - gan rhodd o £175,000 gan NHS Charities Together, a gyflwynwyd yn lleol trwy Awyr Las.
Cafodd y caffi newydd ei agor ddydd Mercher gan Mandy Ellis, aelod o'r staff arlwyo sydd wedi bod yn gweini lluniaeth yn ardal aros yr Uned Fflebotomi dros y misoedd diwethaf.

Dywedodd Dawnne Jenkins, pennaeth safle yn Ysbyty Gwynedd: "Mae’n wych gweld y caffi newydd hwn yn agor yn goron ar y gwaith o drawsnewid ein cyntedd. Mae eisoes yn creu amgylchedd llawer mwy croesawgar a chyfforddus i bawb sy'n ymweld â'r ysbyty."
"Mae cael caffi pwrpasol yn fantais wirioneddol i’n staff, cleifion ac ymwelwyr, gan roi rhywle i bobl ymlacio, cael diod a chael seibiant o ardaloedd clinigol prysur."
"Roedd cael Mandy yn agor y caffi yn gwneud hwn yn brofiad mwy arbennig fyth. Mae hi wedi dod yn wyneb mor gyfarwydd a chyfeillgar i gynifer o bobl, ac roedd yn teimlo'n hollol briodol ei bod hi'n nodi'r garreg filltir hon."
"Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan NHS Charities Together drwy Awyr Las, sydd wedi ein helpu i greu cyntedd sy’n fwy hygyrch, yn fwy cefnogol ac, o ganlyniad, yn brofiad llawer gwell i bawb sy’n dod drwy ein drysau."
Yn ôl bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, bydd y caffi newydd yn cynnwys lle i hyd at 20 o bobl eistedd.
Mae newidiadau eraill i'r cyntedd yn cynnwys cyfleuster newydd i storio cadeiriau olwyn, uwchraddio'r lloriau a'r nenfydau, symud pod Macmillan i'r brif fynedfa, ynghyd ag adnewyddu gofod i wirfoddolwyr Awyr Las, elusen y GIG ar gyfer Gogledd Cymru
Ychwanegodd Dyfed Jones, cadeirydd y pwyllgor cronfeydd elusennol Awyr Las: "Mae'n wych gweld y gwelliannau hyn yn Ysbyty Gwynedd a wnaed yn bosibl diolch i'r prosiect a ariannwyd ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd ac NHS Charities Together."
"Bydd y lle hwn ar ei newydd wedd, ynghyd â'r caffi bach, yn gwella profiadau ein staff, cleifion ac ymwelwyr trwy gynnig cysur a lluniaeth iddynt pan fyddant yn ymweld â safle'r ysbyty."


Arolwg i helpu gwarchod adar yn Nhraeth Lafan
Cynllun 'Dyfodol Môn' yn dychwelyd
'Adwyfio Bangor' yn nodi ei blwyddyn gyntaf
Pwllheli: enwi dyn 'gofalgar' a fu farw ar yr A499
Cwpan Cymru: mwy o drenau ar ddiwrnod y ffeinal