Canfod corff wrth chwilio am fachgen

Sunday, 29 September 2024 00:06

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae corff wedi ei ddarganfod yn dilyn chwiliad helaeth am fachgen 17 oed.

Fe'i gwelwyd yn mynd am y dwr yn y Fenai tua 9.45yb ar dydd Gwener 20 Medi.

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn cribo'r ardal o amgylch Pont Menai ers hynny.

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru fod y corff wedi cael ei ddarganfod mewn datganiad byr ar nos Sadwrn.

Nid yw'r llanc wedi ei adnabod yn gyhoeddus ond mae ei deulu yn cael eu cefnogi.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Simon Barrasford: "Mae fy meddyliau gyda'r teulu ac mae ein swyddogion yn parhau i ddarparu cefnogaeth iddynt yn ystod y cyfnod hynod o anodd hwn."

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth yn ystod yr ymgyrch chwilio."

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    10:00am - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'