Canllaw gigs Cymraeg yn lansio ap newydd

Monday, 9 March 2026 15:41

By Ystafell Newyddion MônFM

Awni?

Mae platfform ar gyfer cerddoriaeth fyw Gymraeg yn ehangu gyda lansiad ap newydd.

Cafodd Awni? ei lansio gyntaf fel gwefan ym mis Ionawr 2025 ac roedd yn dwyn gigs Cymraeg a dwyieithog at ei gilydd ar un map rhyngweithiol am y tro cyntaf.

Mae'r wefan eisoes wedi denu dros 35,000 o ymweliadau, 17,000 o ddefnyddwyr, ac yn cael ei defnyddio’n helaeth gan artistiaid, hyrwyddwyr a lleoliadau i hysbysebu gigs sydd i ddod.

Fe wnaeth y prosiect, a sefydlwyd gan y brawd a chwaer Jona a Martha Owen o'r Felinheli, dyfu o'u profiad eu hunain o golli gigs oherwydd bod gwybodaeth wedi'i gwasgaru ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Martha: "Roedden ni o hyd yn clywed pobl yn dweud - 'doeddwn i ddim yn gwybod am y gig yna'."

"Mae’r wefan wedi profi fod galw gwirioneddol am un lle clir i ddod o hyd i ddigwyddiadau Cymraeg. Yr ap yw'r cam nesaf naturiol, gan ei gwneud hi'n haws fyth i bobl ddarganfod gigs a chefnogi eu lleoliadau lleol."

Mae'r ap newydd yn caniatáu i ymwelwyr ddilyn eu hoff artistiaid, gweld pa ddigwyddiadau sy'n boblogaidd yn eu hardal nhw a chael gwybodaeth am gyhoeddiadau newydd a phan fydd tocynnau'n cael eu rhyddhau.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd lleoliadau cerddoriaeth fyw yn gymwys i gael rhyddhad o 15% ar eu biliau ardrethi y flwyddyn nesaf fel rhan o gynllun ehangach ar gyfer y sector lletygarwch.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a dylai pawb gael y cyfle i'w defnyddio a mwynhau diwylliant Cymraeg. Rwy'n falch o gefnogi ap Awni? sy'n ei gwneud hi'n haws darganfod bywiogrwydd y sîn gerddoriaeth Gymraeg."

Mae'r ap Awni? newydd, a ddatblygwyd gan y cwmni Moilin o Gaerfyrddin, ar gael yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau iOS ac Android.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Zowie a Dai

    4:00pm - 7:00pm

    Zowie a Dai ar MônFM! Tiwns gwych, digon o chwerthin ac ambell beth annisgwyl...!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'