Mae dyn o Llanfairpwll a fu'n dyrchyn ei gymodion wedi cael ei garchrau am 10 mis.
Mi wneath Osian Scott fygwth y teulu y tu allan i'w cartref ar 19 Ionawr.
Cafodd ei arestio'r diwrnod hwnnw ar amheuaeth o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus ac yn ddiweddarach fe'i rhyddhawyd ar fechnïaeth gydag amodau i beidio â chysylltu â nhw.
Ond tra ar fechnïaeth parhaodd i aflonyddu'r teulu, gan weiddi arnyn nhw wrth iddynt fynd allan a thaflu wyau a cherrig i mewn i'w gardd.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y cymdogion yn ofni gadael eu cartref a diogelwch eu plentyn.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, plediodd Scott yn euog i aflonyddu heb drais
Dywedodd Arolygydd Ardal Wayne Francis: "Er gwaethaf ei fod eisoes wedi cael dedfryd ohiriedig am drosedd arall, parhaodd Scott i aflonyddu ar ei gymdogion pan ddylent fod wedi teimlo'n ddiogel yn eu cartref eu hunain."
"Yn lle hynny, maen nhw'n llawn ofn a gofid o ganlyniad i ymddygiad annerbyniol Scott. Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn dod â rhywfaint o sicrwydd iddynt ac y gallant symud ymlaen gyda'u bywydau."
Cafodd orchymyn atal i amddiffyn y dioddefwyr am dair blynedd.


Tân ysgubor yn Llannerch-y-medd yn 'fwriadol'
Canllaw gigs Cymraeg yn lansio ap newydd
Gwynedd: treth y cyngor yn codi 5.17%
Newidiadau mawr ar ddod i drenau y Gogledd
Cwpan Cymru: arestio pump ar ôl anhrefn mewn tafarn