Mae dyn o Amlwch wedi cael ei garcharu ar ôl i dros £13,000 o gyffuriau gael eu darganfod yn ei gar.
Pleidiodd Ricky Pritchard, 31 oed, yn euog i feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi sylweddau Dosbarth A a Dosbarth B a chaffael eiddo troseddol.
Ar 27 Rhagfyr, stopiodd swyddogion yr heddlu gar Ford Mondeo oedd yn cael ei yrru gan Pritchard ger Stad Ddiwydiannol Amlwch.
Ar ôl chwilio ei gar, darganfu swyddogion swm sylweddol o gocên a resin canabis.
Cynhaliwyd chwiliadau pellach mewn cynhwysydd storio sy'n perthyn i Pritchard a arweiniodd at ddarganfod swm mawr o arian parod, cocên, nifer o dabledi ac eitemau eraill sy'n awgrymu cyflenwad cyffuriau.
Yn gyffredinol, amcangyfrifwyd bod gan y cyffuriau a atafaelwyd werth stryd o tua £13,600.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, cafodd Pritchard ei ddedfrydu i 16 mis yn y carchar.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Wayne Francis o Heddlu Gogledd Cymru: "Da ni'n parhau i gyflawni ein hymrwymiad i dargedu'r rhai sy'n ceisio dod â chyffuriau i Ynys Môn."
"Mae mynd ati i stopio a chwilio am unigolion yn un ffordd 'da ni'n targedu cyflenwi cyffuriau ar yr ynys er mwyn gwarchod aelodau bregus o'r gymuned."
"Os oes gynnoch chi unrhyw bryderon ynglŷn â chyflenwi cyffuriau yn eich ardal chi, gallwch chi wneud adroddiad dienw trwy Crimestoppers."


Bae Cemaes: carcharu dyn am werthu cocên
Bangor: carcharu gwerthwr cyffuriau am dair blynedd
Foden wedi ‘rhwystro’ ymchwiliad yn erbyn athro arall
Bangor: cau pont droed wedi tân bwriadol
Pentraeth: dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad