Mae pump o bobl wedi cael eu harestio ar ôl anhrefn difrifol mewn tafarn yn Llandudno yn dilyn gêm rownd gynderfynol Cwpan Cymru.
Cafodd yr heddlu eu galw i dafarn Nevill, ger yr orsaf drenau ar Stryd Vaughan ychydig cyn 4yp prynhawn Sadwrn.
Roedd cefnogwyr wedi ymgynnull yn y dafarn cyn ac ar ôl y gêm rhwng Dinas Bangor 1876 a Y Fflint, a chwaraewyd ym Mharc Maesdu gerllaw.
Yn ôl llefarydd ar ran Bangor, mae'r clwb yn ymwybodol o ddigwyddiad yn ymwneud â'r cadeirydd sydd wedi cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fe gafodd pump o bobl eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus, achosi niwed corfforol ac ymosod ar weithiwr brys.
Mae ditectifs yn ymchwilio i luniau CCTV a lluniau eraill o'r aflonyddwch ac yn apelio ar unrhyw un sydd â lluniau i ddod ymlaen.
Dyweddod llefarydd ar ran Heddu Gogledd Cymru: "Rydym yn ymwybodol o ddiddordeb sylweddol ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys rhannu lluniau wedi'u recordio'n eang gan bobl a oedd yn bresennol, a byddem yn gofyn i unrhyw un a recordiodd yr anhrefn anfon y fideo atom i gynorthwyo ein hymchwiliadau parhaus."
Ychwanegodd: "Byddwch yn ymwybodol y gall postio ar gyfryngau cymdeithasol unwaith y bydd achos cyfreithiol yn weithredol (pan fydd rhywun yn cael ei arestio neu ei gyhuddo) rwystro neu ragfarnu unrhyw achos cyfreithiol posibl yn y dyfodol yn ddifrifol."
"Mae hyn yn berthnasol i bawb, a gallech gael eich canfod yn ddirmyg llys."
Mewn datganiad, dyweddod llefarydd ar ran CPD Dinas Bangor 1876: "Mae CPD Dinas Bangor 1876 yn ymwybodol o ddigwyddiad a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â chadeirydd y clwb, yn dilyn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ddoe yn Llandudno."
"Rydym yn deall bod y mater yn destun camau gweithredu parhaus gan Heddlu Gogledd Cymru ar hyn o bryd, felly, ar hyn o bryd, nid yw'r clwb yn gallu gwneud sylwadau pellach."
"Mae CPD Dinas Bangor 1876 wedi sefydlu polisïau a gweithdrefnau i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a godir a bydd yn dilyn y prosesau hynny os bydd angen."

Enillodd Y Fflint y gêm 5-1 a bydd yn chwarae Caernarfon yn y rownd derfynol yn Rodney Parade yng Nghasnewydd ar ddydd Sul 12 Ebrill.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod y rownd gynderfynol wedi'i chwarae heb unrhyw ddigwyddiadau.
Ychwanegodd: "Mae CBDC yn ymwybodol o adroddiadau am anhrefn honedig yng nghanol tref Llandudno yn dilyn diwedd y gêm, ac er bod hyn y tu allan i awdurdodaeth CBDC, bydd y gymdeithas yn cefnogi ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru os oes angen."
"Roedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD ei hun yn ddigwyddiad cadarnhaol i bêl-droed Cymru. Nid oes lle i drais mewn pêl-droed ac mae'n niweidio'r profiad cadarnhaol y mae'r mwyafrif yn ei fwynhau."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â lluniau o'r aflonyddwch i gysylltu â 101 neu ymweld â'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod O035019.


Tân ysgubor yn Llannerch-y-medd yn 'fwriadol'
Canllaw gigs Cymraeg yn lansio ap newydd
Carcharu dyn am aflonyddu ar ei gymdogion
Gwynedd: treth y cyngor yn codi 5.17%
Newidiadau mawr ar ddod i drenau y Gogledd