Bydd trenau ychwanegol o Arfordir Gogledd Cymru i Gasnewydd ar ddiwrnod rownd derfynol Cwpan Cymru.
Mae Trafnidieth Cymru (TrC) wedi cadarnhau gwasanaethau arbennig i helpu cefnogwyr Caernarfon a Y Fflint ddydd Sul 12 Ebrill.
Bydd y ffeinal yn cael eu chwarae yn Rodney Parade, er gwaethaf galwadau i symud y gêm i leoliad arall yn y Gogledd.
Dywedodd Macsen Jones, swyddog gweithredol ymgysylltu â chefnogwyr CBDC: “Bydd y gwasanaethau hyn yn helpu i sicrhau y gall cefnogwyr Tref Caernarfon a Thref y Fflint deithio i Gasnewydd a dychwelyd i ogledd Cymru mewn modd diogel a chyfleus ar ddiwrnod y gêm."
“Mae cydweithio cryf rhwng digwyddiadau mawr a phartneriaid trafnidiaeth yn hanfodol wrth gefnogi cefnogwyr pêl-droed ledled Cymru.”
Bydd trên cynnar yn rhedeg o Gaergybi i Gasnewydd, gan ddechrau am 8.20yb, gyda gyda gwasanaeth dychwelyd yn cychwyn o Gaerdydd am 6.09yh.
Bydd adnoddau diogelwch ychwanegol yn bresennol mewn gorsafoedd allweddol ac ar y gwasanaethau trên.
Atgoffir teithwyr na chaiff ymddygiad gwrthgymdeithasol na cham-drin geiriol tuag at staff eu goddef.
Ychwanegodd Georgina Porter, rheolwr cyflenwi cwsmeriaid TrC: "Mae ein partneriaeth agos â Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn parhau i lwyddo er lles cefnogwyr."
"Drwy ddarparu'r gwasanaethau ychwanegol hyn, rydym yn ei gwneud hi'n haws i gefnogwyr gefnogi eu tîm a theithio i'r rownd derfynol mewn ffordd gynaliadwy."
"Rydym eisiau i bawb gael profiad cofiadwy ar ddiwrnod gêm ac yn gofyn i bob teithiwr deithio’n gyfrifol a thrin ein staff â pharch."
Mae'r Cofis yn gobeithio ennill y cwapn am y tro cyntaf yn eu hanes enwog a sicrhau eu lle yng Nghynghrair Cynhadledd Europa am yr ail dro mewn tair blynedd.
Enillodd Y Fflint y cystadleuaeth ym 1954 ond mae'r clwb ar hyn o bryd mewn brwydr i gadw eu statws yn Uwch Gynghrair Cymru gyda dwy gêm o'r tymor i fynd.


A499: dyn ifanc wedi marw mewn gwrthdrawiad
Trysorau Môn mewn arddangosfa newydd
Carcharu dyn o Fangor am gludo cocên
Aldi i greu 40 o swyddi ym Mhorthaethwy?
Y Bandana yn ailffurfio ar gyfer Eisteddfod 2026