
Mae cyfyngiadau wedi cael eu cyflwyno ar gyfer arddangosfa flynyddol Noson Tân Gwyllt yng Nghaernarfon eleni.
Ni fydd neb yn cael gwylio'r tân gwyllt o dros yr Aber yn dilyn "digwyddiadau gwrth-gymdeithasol difrifol ac ymddygiad peryglus" yn ystod arddangosfa'r llynedd.
Cytunwyd ar gyfyngiadau mewn cyfarfod arbennig rhwng Cyngor Tref Caernarfon, Heddlu Gogledd Cymru, Clwb Llewod Caernarfon a'r cwmni sy'n trefnu'r tân gwyllt eleni.
Dyweddod llefarydd ar ran y cyngor: "Cafwyd achosion o bobl yn ceisio gwylio’r arddangosfa o ardaloedd peryglus ac anwybyddu cyngor stiwardiaid y llynedd ac mae’r trefnwyr yn awyddus i sicrhau dyfodol yr arddangosfa."
"Bydd y mesurau newydd yn golygu na fydd modd gwylio’r arddangosfa o dros yr Aber gyda’r ffordd ar gau o’r clwb golff ac ymgyrch codi ymwybyddiaeth o sut i wylio’r arddangosfa yn ddiogel."
Bydd yr arddangosfa yn digwydd nos Fercher 5ed Tachwedd am 6.30yh, wedi'i drefnu gan Gyngor y Dref mewn partneriaeth â Chlwb y Llewod a threfnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon. Bydd stondinau bwyd ar y prom yn agor am 5.30yp.