Cyllid ynni ar gyfer clybiau chwaraeon

Thursday, 26 February 2026 07:15

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (David Medcalf)

Mae wyth clwb chwaraeon o Ynys Môn a Gwynedd wedi sicrhau cyllid i ddod yn fwy effeithlon o ran ynni..

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Chwaraeon Cymru wedi dyfarnu bron i £114,000 i glybiau yn y rhanbarth fel rhan o cynllun Grantiau Arbed Ynni.

Ers ei lansio yn 2023, mae clybiau wedi gallu gwneud cais am hyd at £25,000 i ariannu ystod o welliannau arbed ynni. 

Dwyeddod Brian Davies, prif weithredwr Chwaraeon Cymru: "Rydym yn falch o helpu clybiau i ddiogelu eu dyfodol wrth i filiau ynni barhau i godi. Mae hynny'n caniatáu iddynt barhau i fod yn ganolog i fywydau pobl, gan arwain at fwynhad gydol oes o chwaraeon."

"Bydd y grantiau a roddir i glybiau yng Nghymru i wella eu mesurau cynaliadwyedd hefyd yn helpu i ddiogelu'r amgylchedd."

"Mae clybiau ledled Cymru yn elwa o Grantiau Arbed Ynni, drwy leihau costau ynni a lleihau allyriadau carbon, fel bod yr arbedion yn cael eu hail-fuddsoddi mewn chwaraeon lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dyma rai o'r ymgeiswyr llwyddiannus yn lleol:

  • Bydd Clwb Rygbi Caernarfon yn lleihau ei filiau ynni i ddarparu hwb cymunedol i'w holl ddefnyddwyr. Diolch i grant o £25,000, bydd yn gosod paneli solar, goleuadau LED ac inswleiddiad yn eu lle.
  • Ychydig iawn o foderneiddio sydd wedi bod ar system wresogi Clwb Golff Ynys Môn dros y blynyddoedd. Bydd grant o £24,000 yn galluogi'r clwb i uwchraddio i foeler newydd. Gallai hyn ei helpu i arbed £12,000 y flwyddyn a gostwng ei gostau rhedeg.
  • Mae Clwb Golff Caernarfon yn buddsoddi ei grant o £10,710 mewn twll turio, a fydd yn pwmpio dŵr yn syth i'r lawntiau heb fawr ddim cost. Hefyd bydd ailgylchu dŵr daear yn lleihau ei alw ar y prif gyflenwad dŵr cyhoeddus.
  • Dyfarnwyd £7,894 i Glwb Criced Porthaethwy. Fel rhan o welliannau helaeth y clwb tuag at gynaliadwyedd a chyrraedd amcanion amgylcheddol, mae am osod batris storio ynni yn eu lle i gefnogi ei baneli solar.
  • Mae CPD Aberffraw wedi gweld mwy o alw am ei gyfleusterau. Mae am osod paneli solar yn y clwb gyda'i £6,420, gan gyfrannu at y nodau hinsawdd cenedlaethol.

Meddai Jack Sargeant, y gweinidog chwaraeon: "Mae chwaraeon yn dod â chymunedau at ei gilydd ac mae'n hanfodol y gall ein clybiau barhau i wneud hynny am genedlaethau i ddod."

"Mae'r cyllid hwn yn helpu sefydliadau ledled Cymru i ddod yn fwy cynaliadwy, lleihau eu costau rhedeg a chanolbwyntio ar yr hyn maen nhw'n ei wneud orau - denu pobl allan i fod yn egnïol."

Ychwanegodd: "O baneli solar i systemau gwresogi modern, mae clybiau yn dod o hyd i ffyrdd arloesol o leihau eu biliau ynni tra'n gwneud eu rhan dros yr amgylchedd."

"Mae'r ffigurau o ran arbedion a gwrthbwyso carbon yn siarad drostynt eu hunain. Byddwn yn annog unrhyw glwb sy'n meddwl am wneud gwelliannau arbed ynni i wneud cais pan fydd y cynllun yn ailagor ym mis Mai."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, dyfarnwyd 120 o wobrau gwerth tua £2.1miliwn yn y flwyddyn diwethaf.

Ar gyfartaledd, mae pob clwb yn arbed tua £3,000 ac yn gwrthbwyso 3.3 tunnell o garbon – amcangyfrifir fod hynny yn gwrthbwyso dros 840 tunnell o garbon y flwyddyn, gydag arbediad ynni amcangyfrifedig o tua £840,000 ar gyfer pob clwb gyda'i gilydd.

 

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Gwyn Owen

    10:00am - Noon

    Join Gwyn for two hours of music to finish the morning

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'