Mae pobl ifanc o Ynys Môn yn cael eu gwahodd i wneud cais am gynllun i raddedigion gyda'r cyngor sir.
Lansiwyd 'Dyfodol Môn' y llynedd gan groesawu pedwar graddedig ifanc i rolau hyfforddai gyda nifer o adrannau yn y awdrudod lleol.
Eleni, mae'r cynllun yn ceisio recriwtio tri o raddegigion i swyddi yn eu hadrannau tai, addysg a moderneiddio.
Mae Dyfodol Môn yn caniatáu i fyfyrwyr ennill profiad gwaith wrth astudio ar gyfer cymwysterau ôl-raddedig.
Dywedodd Cerys Jones, a ymunodd â'r cyngor fel hyfforddai datblygu economaidd yn 2025: "Mae'r profiadau rwyf wedi'u cael dros y misoedd diwethaf wedi bod yn werthfawr tu hwnt."
"Mae cael cyfle i astudio cwrs meistr ar yr un pryd a chael profiad ymarferol wedi bod yn fuddiol tu hwnt, ac mae wedi bod yn werth chweil gweld sut mae addysg academaidd yn cael ei ddefnyddio yn y gweithle."
"Rydym hefyd wedi cael cyfle i gysylltu gydag uwch arweinyddion, yn cynnwys cyfarfodydd rheolaidd gyda'r prif weithredwr a phartneriaid allanol, sydd wedi helpu i wella fy nealltwriaeth a datblygu sgiliau newydd."
"Mae'r gwaith rwyf wedi bod yn rhan ohono wedi bod yn amrywiol a diddorol, ac mae cydweithwyr wedi bod yn gefnogol iawn drwy roi cyfle i mi gyfrannu."
"Rwyf wedi bod yn ffodus iawn o fod wedi gweithio ar brosiectau fel ailddatblygu hen safle Peboc ac adnewyddu'r derfynfa forwrol yn Amlwch. Rwyf hefyd wedi cael cyfle i dreulio amser gydag adrannau gwahanol - ac hyd yn oed wedi ymuno â'r tîm morwrol allan ar y dŵr."
"Ar y cyfan, mae'r rhaglen wedi rhoi golwg trylwyr i mi ar yr amrywiaeth o wasanaethau yn y cyngor, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu dros y ddwy flynedd nesaf."
Y swyddi sydd ar gael fel rhan o gynllun graddedigion Dyfodol Môn eleni yw:
- Tai - Arolygydd Technegol
- Addysg - Swyddog Trawsnewid Digidol Graddedig dan Hyfforddiant
- Moderneiddio - Swyddog Cydlynu Prosiectau
Yn ôl Cyngor Môn, bydd nifer o fuddion ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus, yn cynnwys cyfle i astudio cymhwyster meistr (neu gyfwerth) wedi'i ariannu'n llawn, profiad o ddechrau gyrfa newydd gyda'r cyngor a mentora gan gydweithwyr.
Ychwanegodd y prif weithredwr Dylan J. Williams, a ddechreuodd ei yrfa fel hyfforddai yn 1996: "Mae'n wych gweld cynllun graddedigion Dyfodol Môn yn cyrraedd ei ail flwyddyn."
"Mae creu cyfleoedd i bobl fyw a gweithio'n lleol, yn ogystal â gwneud cyfraniad cadarnhaol i'n cymunedau, yn rhywbeth rydyn ni fel cyngor yn teimlo'n angerddol yn ei gylch."
"Drwy fentrau fel hyn, yn ogystal â'n rhaglenni hyfforddeion a phrentisiaethau ehangach, rydym yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf drwy gynnig profiadau gwerthfawr law yn llaw â datblygiad academaidd a phroffesiynol ar draws amrywiaeth o wasanaethau."
"Dyma ffordd wych i greu sylfaen, meithrin sgiliau a chael profiadau i adeiladu gyrfa dda ar yr ynys."
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Ynys Môn. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 11 Mai 2026.


Arolwg i helpu gwarchod adar yn Nhraeth Lafan
Caffi newydd Ysbyty Gwynedd yn agor
'Adwyfio Bangor' yn nodi ei blwyddyn gyntaf
Pwllheli: enwi dyn 'gofalgar' a fu farw ar yr A499
Cwpan Cymru: mwy o drenau ar ddiwrnod y ffeinal