Dirwy i ddynes am dwyll cosmetig

Thursday, 12 March 2026 15:26

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae dynes o Bethesda wedi osgoi carchar am darparu cynnyrch cosmetig sydd heb ei drwyddedu yn ystod triniaethau cosmetig ar gwsmeriaid.

Plediodd Carol Edwards, 39 oed, yn euog i ddau achos o dwyll drwy gamgynrychiolaeth.

Roedd hi wedi hysbysebu triniaethau Botox yn ei salon harddwch ym Mhorthaethwy, pan oedd hi'n defnyddio sylwedd amgen o'r enw Fraxin.

Yn ystod ymchwiliad gan Safonau Masnach Ynys Môn, honnodd Edwards ei bod hi'n nyrs dan hyfforddiant - ond nid oedd hyn yn wir.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod ddau achwynydd wedi gweld hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol, ac wedi talu am driniaeth Botox gan Edwards, a oedd yn masnachu dan yr enw '5 Star Aesthetics'.

Fe wnaethant gwyno nad oedd y driniaeth wedi gweithio fel ag y dylai ac er eu bod wedi cael cynnig ychwaneg o sesiynau yn y pen draw, roeddent wedi cael trafferth cael ymateb ganddi.

Fodd bynnag, nid oedd Edwards wedi bod yn defnyddio Botox, ond sylwedd tebyg o'r enw Fraxin, sydd o radd is a heb ei drwyddedu. Er ei fod yn cael effaith debyg nid yw wedi'i drwyddedu i'w ddefnyddio yn y DU.

Rhwng mis Ebrill a Hydref 2023, derbyniodd adran safonau masnachu nifer o gwynion gan gwsmeriaid ynglŷn â thriniaethau a methiant ar ran perchennog y busnes i ymateb i gwynion.

Oherwydd natur y triniaethau, roedd y cwynion y tu allan i gyfundrefn drwyddedu'r adran iechyd yr amgylchedd gan nad yw triniaethau cosmetig anfeddygol yn cael rheoleiddio ar hyn o bryd.

Cysylltodd swyddogion safonau masnachu â Edwards ynglŷn â'i harferion masnachu a hanes o ddarparu gwasanaeth cwsmer gwael.

Yn ystod eu trafodaethau rhoddodd Edwards wybod i'r swyddogion mai 'Fraxin' ac nid 'Botox' yr oedd wedi bod yn ei ddefnyddio.

Nid oedd Edwards yn meddwl bod dim byd o'i le ar hynny. Hefyd, dywedodd wrth swyddogion ei bod yn nyrs dan hyfforddiant a'i bod ym mlwyddyn olaf ei chwrs. Yn nes ymlaen, cadarnhawyd nad oedd hyn yn wir.

Wrth ddedfrydu fe wnaeth y Barnwr Timothy Petts grynhoi'r achos drwy nodi fod y ddau gwsmer yn meddwl eu bod y cael triniaeth Botox ac ni fyddent wedi cytuno i'r driniaeth pe byddent yn gwybod mai Fraxin, sylwedd heb ei drwyddedu gyda sgil-effeithiau anhysbys, oedd yn cael ei ddefnyddio.

Er nad oedd y golled ariannol yn fawr iawn roedd y niwed posib yn sylweddol. Fe allai pethau fod wedi mynd o chwith.

Nododd hefyd fod yr adroddiad cyn dedfrydu wedi dod i'r casgliad bod problemau iechyd meddwl wedi amharu ar ei synnwyr cyffredin ac nad oedd wedi bwriadu achosi unrhyw niwed; ac y byddai'r iawndal yn uwch na chost y triniaethau oherwydd y straen ychwanegol a achoswyd i'r dioddefwyr.

Bydd Edwards yn gorfod talu dirwy o £500 ac ianwdal o £1,000 - £500 yr un i'r ddau gwsmer. Cafodd orchymyn cymunedol am 12 mis a cyfnod adsefydlu o 15 diwrnod.

Mae Safonau Masnachu Ynys Môn yn rhybuddio trigolion sy'n ystyried cael triniaethau cosmetig anfeddygol i fod yn wyliadwrus.

Dywedodd y rheolwr, Emma Jones: "Er bod y triniaethau hyn yn ymddangos fel petaent yn peri llai o risg na thriniaethau meddygol, nid oes angen unrhyw gymwysterau i roi triniaethau cosmetig anfeddygol na glynu wrth gòd ymarfer proffesiynol."

"Yng Nghymru, mae angen trwydded ar gyfer triniaethau arbennig yn unig, megis aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio. O'r herwydd, nid yw triniaethau cosmetig anfeddygol, yn cynnwys 'Botox' a chynnyrch llenwi, wedi eu rheoleiddio."

Dylai unrhyw un sy'n ystyried cael triniaeth o'r fath wneud gwaith ymchwil trwyadl a gwneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r risgiau.

Rhaid cael ymgynghoriad meddygol gyda gweithiwr proffesiynol cymwysedig cyn y gellir rhagnodi cynnyrch meddyginiaethol, yn cynnwys Botox.

Erbyn hyn, mae rhagnodi o bell wedi cael ei wahardd yn llwyr, sy'n golygu bod rhaid i gleientiaid gael ymgynghoriad wyneb yn wyneb cyn cael triniaeth.

Ychwanegodd y Cynghorydd Nicola Roberts, sy'n deilio portffolio Gwarchod y Cyhoedd yn Cyngor Môn: "Ymgais i wneud elw a chael mantais annheg yn erbyn busnesau eraill oedd hyn drwy ddefnyddio sylwedd rhatach a heb ei drwyddedu."

"Yn ffodus iawn, ni chafodd y dioddefwyr unrhyw sgil effeithiau niweidiol. Cafodd ei chwsmeriaid eu camarwain yn fwriadol ac roeddent wir yn credu eu bod wedi cael triniaeth Botox, gallai hyn fod wedi amharu ar unrhyw driniaeth feddygol frys ond nid oedd hynny'n angenrheidiol, diolch byth."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 6:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'