Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cynnydd treth y cyngor o 5.17% y flwyddyn nesaf.
Mewn cyfarfod ddydd Iau diwethaf, cytunodd y cynghorwyr ar gyllideb o £380 miliwn ar gyfer 2026-27, ochr yn ochr â rhaglen gyfalaf gwerth £40 miliwn.
Dywed y cyngor ei fod wedi osgoi gwneud toriadau i wasanaethau hanfodol, ar ôl derbyn mwy o arian nag a ddisgwyliwyd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y gyllideb yn caniatáu buddsoddi yn y gwasanaethau mae pobl Gwynedd yn dibynnu arnynt, gan gynnwys gofal plant, cartrefi i bobl hŷn, gofal i bobl ag anableddau dysgu a gwasanaethau iechyd meddwl.
Ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd, bydd modd cynnig mwy o gefnogaeth i blant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a chynyddu cyllidebau ysgolion arbennig.
Ond yn ôl arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys: "Ni all un setliad gan Llywodraeth Cymru wneud yn dda am flynyddoedd o lymder a thoriadau i gyllidebau llywodraeth leol."
"Er ein bod yn rhoi pob ymdrech i gadw'r dreth cyngor mor isel a phosib, rydw i'n gwybod yn iawn fod unrhyw gynnydd yn ychwanegu i'r baich ariannol sydd ar bobl Gwynedd, yn enwedig pobl sy'n ei chael yn anodd yn barod."
Dywed y cyngor ei fod yn wynebu mwy na £2 filiwn mewn costau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau gofal, gan gynnwys mwy o oedolion gydag anableddau dysgu angen cefnogaeth i fyw'n annibynnol a chynydd yn y galw am ofal preswyl i bobl sydd â anhwylderau iechyd meddwl dwys.
Mae costau ychwanegol tebyg hefyd ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol i ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a chartrefi henoed.
Dyweddod y Cynghorydd Huw Wyn Jones, aelod y cabinet dros gyllid: "Mae cyllideb y cyngor yn effeithio pob un ohonom."
"Mae'n rhaid i ni gael arian i dalu am y gwasanaethau a'r adnoddau ma pawb yn eu defnyddio – pethau fel cartrefi gofal, casgliadau gwastraff ac addysg ein plant. Rydym yn derbyn grantiau gan Llywodraeth Cymru ac yn codi treth cyngor ar gyfer hyn."
"Eleni, mae mwy o arian wedi dod gan y Llywodraeth yng Nghaerdydd sy'n golygu na fydd rhaid i ni dorri gwasanaethau rheng flaen hanfodol, fydd yn rhyddhad i bobl Gwynedd dwi'n siŵr."
"Wedi dweud hynny, mae costau pethau fel trydan, disel, bwyd a deunyddiau adeiladu yn parhau i godi ac mae mwy o alw nag erioed am ein gwasanaethau. Fel trigolion lleol a busnesau'r sir, rhaid i ni gario mlaen i gynllunio'n ofalus ac edrych ar ôl pob ceiniog."
"Er ein bod yma yng Ngwynedd wedi derbyn mwy na'r disgwyl gan y Llywodraeth, dydi'r cynnydd yn yr arian sy'n dod i fewn dal ddim yn ddigon i dalu am y cynnydd mewn costau."
"Mae'r cyngor llawn felly wedi cytuno i godi'r dreth cyngor o 5.17%. I rhywun sy'n byw mewn eiddo 'Band D', mae hyn yn golygu byddan nhw'n talu £2,006.11 y flwyddyn, sy'n gynnydd o £98.62 yn flynyddol neu £1.90 yn fwy yr wythnos."
"Does yr un ohonom eisiau gorfod cynyddu treth y cyngor o gwbl wrth gwrs a rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw'r cynnydd hwn mor fychan a phosib heb gosbi pobl sy'n ddibynnol ar wasanaethau'r cyngor."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod cyllidebau wedi cael eu torri £47 miliwn yn ystod y degawd diwethaf "oherwydd cyllidebau sy'n crebachu a cynnydd yn galw am wasanaethau."


Tân ysgubor yn Llannerch-y-medd yn 'fwriadol'
Canllaw gigs Cymraeg yn lansio ap newydd
Carcharu dyn am aflonyddu ar ei gymdogion
Newidiadau mawr ar ddod i drenau y Gogledd
Cwpan Cymru: arestio pump ar ôl anhrefn mewn tafarn