Newidiadau mawr ar ddod i drenau y Gogledd

Monday, 9 March 2026 10:16

By Ystafell Newyddion MônFM

TrC

Bydd newidiadau mawr i wasanaethau rheilffordd ar linell Arfordir Gogledd Cymru ym mis Mai.

Yn ôl Trafnidiaeth Cymru (TrC), bydd nifer y trenau’n cynyddu tua 50% mewn un o'r newidiadau mwyaf arwyddocaol i'w amserlen yn yr rhanbarth mewn cenhedlaeth.

O ddydd Sul 17 Mai, bydd trenau o Faes Awyr Manceinion yn gwasanaethu Caergybi yn lle hynny, gan wella cysylltiadau trafnidiaeth ehangach â Gogledd Orllewin Lloegr.

Bydd patrwm gwasanaeth newydd yn gwella opsiynau cymudo i Gaergybi a Bangor a bydd gorsaf Y Fali yn cael ei chynnwys fel gorsaf ar gyfer yr holl wasanaethau perthnasol.

Hefyd, bydd gwasanaethau i Birmingham a Maes Awyr Birmingham - bob dwy awr ar hyn o bryd - yn gweithredu yn ol ac ymlaen o Gyffordd Llandudno, nid Caergybi.

Dywedodd Colin Lea, cyfarwyddwr cynllunio TrC: “Mae hwn yn newid unwaith mewn cenhedlaeth ar gyfer gwasanaethau trenau yng Ngogledd Cymru."

"Drwy gynyddu capasiti, gwella amlder, a symleiddio'r amserlen, rydym yn creu rhwydwaith mwy dibynadwy a chysylltiedig sy'n gwasanaethu anghenion ein cwsmeriaid a'n cymunedau yn well."

Mae'r newidiadau'n rhan o raglen Rhwydwaith Gogledd Cymru, sydd â'r nod o wella capasiti a dibynadwyedd rheilffyrdd i ddiwallu'r galw cynyddol am deithio cynaliadwy a chysylltiadau cryfach o fewn cymunedau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Gogledd, Ken Skates: “Mae hyn yn newyddion gwych i deithwyr."

“Ochr yn ochr â buddsoddiad cenhedlaethol o £14bn mewn rheilffyrdd Cymru, trenau newydd a rhewi prisiau, mae’r newid amserlen newydd yn welliant enfawr arall i drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r strwythur newydd yn cyflwyno patrwm safonol bob awr, sy'n golygu y bydd rhai trenau'n rhedeg ar yr un pryd bob awr i'w gwneud hi'n haws i gynllunio teithiau.

Ni fydd rhai gwasanaethau uniongyrchol yn gweithredu mwyach a chynghorir cwsmeriaid i wirio eu teithiau cyn teithio.

Ychwanegodd Emma Osborn, cyfarwyddwr strategaeth teithwyr Network Rail Cymru a’r Gororau: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi cyflwyno gwasanaethau gwell i gymunedau ar hyd Arfordir Gogledd Cymru ac i Ogledd Lloegr."

"Mae gwella cysylltedd yn hanfodol, a bydd y cynnydd hwn yn ei gwneud hi’n haws i bobl deithio, gan gryfhau cysylltiadau rhwng rhanbarthau.”

Mewn newidiadau eraill, bydd gwasaneth Lerpwl - Caer yn cael ei ymestyn i Landuno ac bydd gwasanaethau sy'n cysylltu Wrecsam a Chrewe â Chaer yn cael eu huno.

Bydd cyflwyno'r system Talu wrth Fynd (PAYG) yn y Gogledd hefyd yn dechrau ddydd Llun 18 Mai, gan ddechrau mewn 15 gorsaf o Wrecsam Cyffredinol – Bidston,

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Zowie a Dai

    4:00pm - 7:00pm

    Zowie a Dai ar MônFM! Tiwns gwych, digon o chwerthin ac ambell beth annisgwyl...!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'