Bydd pedwar ymgeisydd yn yr is-etholiad Cyngor Môn yn ward Talybolion.
Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ddydd Iau 24 Hydref, yn dilyn ymddiswyddiad cyn-arweinydd y cyngor Llinos Medi, a etholwyd yn AS Ynys Môn yn San Steffan.
Cafodd yr enwebiadau eu cau brynhawn dydd Gwener diwethaf.
Dyma'r rhestr lawn o ymgeiswyr:
- Tomos Barlow (Plaid Werdd Cymru)
- David Evans (Plaid Geidwadol Cymru)
- Kenneth Hughes (Annibynnol)
- Dafydd Williams (Plaid Cymru)
Cynheilir pleidlais rhwng 7yb a 10yh ar ddiwrnod yr isetholiad.
Mae ward Talybolion yn cynrychioli gogledd orllewin Ynys Môn, gan gynnwys pentrefi Llanerchymedd, Rhosgoch, Llanddeusant a Llanfaethlu.


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor
Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi