Mae cwmni digwyddiadau yn Amlwch wedi cael ei werthu i ddau o'i gyflogwyr hirhoedlog.
Mae Sain a Goleuo MAD wedi darparu gwasanaethau sain, goleuo a llwyfannu i ystod eang o digwyddiadau, yn wyliau cymunedol fel Gŵyl Cefni yn Llangefni i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni ym Mona.
Sefydlwyd y cwmni gan Arwel Hughes yn 2000, ond yn gynharach eleni, cyhoeddodd ei fwriadau i gamu yn ôl, yn dilyn dros dau ddegawd yn y diwydiant, a dechreuodd chwilio am olynwyr, i arwain y busnes.
Y perchnogion newydd yw Gwyn a Mandy Hughes, gŵr a gwraig o Fethel, ger Caernarfon, sydd wedi gweithio gyda MAD ers dros 25 mlynedd rhyngddynt.
Dywedodd Arwel: "Mae'r cwmni wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd ers fy ugeiniau. Bellach, yn fy mhumdegau ac yn dad i ddau o blant ifanc, rydw i eisiau canolbwyntio ar brif fusnes ein teulu fel trefnwyr angladdau."
"Rydw i'n hynod falch o bopeth rydym wedi'i gyflawni dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae'n bleser mawr gen i weld Gwyn a Mandy yn cymryd yr awenau."
2Maen nhw wedi bod yn rhan annatod o MAD ers blynyddoedd lawer, yn deall yn union beth sy'n gwneud y cwmni'n arbennig, ac rydw i'n gwbl hyderus y byddan nhw'n parhau i adeiladu ar bopeth rydym wedi'i gyflawni."
Yn ôl Gwyn a Mandy, bydd eu penderfyniad i brynu'r busnes yn helpu i sicrhau ei ddyfodol wrth ddiogelu swyddi lleol a chadw perchnogaeth leol.
Mae'r cwpl wedi meithrin meithrin perthynas gref â chwsmeriaid, lleoliadau a threfnwyr digwyddiadau ar hyd a lled gogledd Cymru.
Dywedodd Gwyn: "Rydw i wedi bod yn gweithio yn y diwydiant sain proffesiynol ers 1992, ac wedi treulio blynyddoedd yn gweithio ochr yn ochr ag Arwel."
"Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydw i wedi dod i adnabod ein cwsmeriaid a threfnwyr digwyddiadau yn dda, ac mae hynny'n rhywbeth rydw i yn hynod falch ohono. Fel rhywun sy'n lleol i'r ardal, rydw i'n gwybod pa mor bwysig ydi hynny."
"Rydym wedi gweithio gyda llawer o'r un cwsmeriaid flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan gefnogi popeth o wyliau bwyd lleol a digwyddiadau cymunedol i rai o ddigwyddiadau mwyaf y rhanbarth. Mae'r cyswllt lleol yna yn rhan annatod o'r hyn sy'n gwneud y busnes hwn yn llwyddiannus."
"Gall cwsmeriaid ddisgwyl yr un tîm ymroddedig, yr un gwasanaeth proffesiynol a'r un ymrwymiad i ansawdd sydd wedi gwneud MAD yn un o gwmnïau cynhyrchu digwyddiadau mwyaf dibynadwy gogledd Cymru."
"Rydym am i bobl wybod ein bod ni yma, ein bod ni yma i aros, ac ein bod yn benderfynol o barhau â'r enw da y mae Arwel wedi'i adeiladu dros y 25 mlynedd diwethaf, wrth fuddsoddi hefyd yn nyfodol y busnes."


Carcharu pedoffil am ymosod ar ferch
Llongyfarchiadau i fyfyrwyr TGAU
TaithCymru i lansio ym mis Hydref
Enwi dau bobl a fu farw mewn damwain awyren
Gosod cyn-ditectif ar restr wahardd plismona