Prifysgol Bangor yn arwain ymchwil i adfer fforestydd glaw tymherus hanfodol yn y Deyrnas Unedig

Wednesday, 2 July 2025 17:22

By Tomos Dobson

Coed Crafnant woodland Anglesey, Ynys Môn – Bangor University

Mae Prifysgol Bangor wedi lansio rhaglen ymchwil arloesol i adfer ac adfywio fforestydd glaw tymherus prin ac ecolegol gyfoethog yn y Deyrnas Unedig, a hynny mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac mae'r ymchwil wedi'i ariannu gan Aviva.

Mae Prifysgol Bangor wedi lansio rhaglen ymchwil arloesol i adfer ac adfywio fforestydd glaw tymherus prin ac ecolegol gyfoethog yn y Deyrnas Unedig, a hynny mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac mae'r ymchwil wedi'i ariannu gan Aviva.

 

Mae'r gwaith yn rhan o ymrwymiad nodedig gan Aviva, sy'n werth £38 miliwn, i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur drwy adfer fforestydd glaw ledled Ynysoedd Prydain. Fel rhan o'r gwaith hwn, mae cyllid wedi'i ddyrannu i wneud ymchwil academaidd arloesol mewn sefydliadau blaenllaw, a Phrifysgol Bangor fydd yn arwain y gwaith hwnnw.

 

Mae fforestydd glaw tymherus, sy'n cael eu galw weithiau yn fforestydd glaw'r Iwerydd, ymhlith y cynefinoedd mwyaf bioamrywiol yn y Deyrnas Unedig, ond maent wedi crebachu i ffracsiwn o'r hyn oeddent unwaith. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor bellach yn gofyn cwestiynau allweddol ynghylch sut y gallwn fod yn fwy effeithiol a chynhwysol wrth adfer y coedwigoedd hyn, a pha gyfraniad y bydd hyn yn ei wneud fel rhan o'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd. 

 

Yn y project cyntaf, bydd tîm ymchwil Prifysgol Bangor yn ymchwilio i rôl mwsoglau, cennau a phlanhigion eraill sy'n tyfu ar foncyffion a changhennau coed yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Caiff y cyfraniad hwnnw ei ddiystyru'n aml.  Byddant yn mesur i ba raddau mae'r planhigion hyn yn amsugno'r nwyon tŷ gwydr, sy'n achosi cynhesu byd-eang, o'r atmosffer. Bydd hyn yn llenwi bwlch pwysig yn y wybodaeth bresennol am gyfraniad cyffredinol systemau fforestydd glaw tymherus i'r gylchred carbon byd-eang.

 

Meddai Dr Karina Marsden, darlithydd Gwyddor Pridd a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Bangor: "Dan ni'n falch iawn ym Mangor o gael bod yn arwain y project yma. Mae fforestydd glaw tymherus yn ecosystemau hudolus a chymhleth. Mae cymaint mwy i'w ddysgu amdanyn nhw ac mae cymaint yn y fantol."

 

Mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor hefyd yn archwilio i weld beth ydy'r ffyrdd gorau o adfer cynefinoedd fforestydd glaw, gan gynnwys sut i sefydlu coed mewn safleoedd sydd ar hyn o bryd yn cael eu dominyddu gan rywogaethau ymledol megis rhedyn, ac mi fyddan nhw hefyd yn cymharu dulliau megis plannu, hau hadau'n uniongyrchol, neu adael i goed sefydlu o hadau sydd wedi'u gwasgaru'n naturiol. Mi fyddan nhw hefyd yn ymchwilio i set o fforestydd glaw sydd wedi'u hadfer ar adegau gwahanol dros gyfnod hir o amser i ddarganfod pa mor gyflym y maent yn adfer fel ecosystemau gwydn. Mae'r project hwn yn gydweithrediad efo Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.

 

Meddai John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor: "Project ydy hwn i ffurfio'r sylfeini gwyddonol ar gyfer mynd ati, ar raddfa fawr, i adfer un o'r cynefinoedd sydd fwyaf mewn perygl. Mae angen i ni ddeall sut mae'r coedwigoedd hyn yn tyfu, sut maen nhw'n gweithredu, a sut y gallan nhw ein helpu ni i gyrraedd targedau bioamrywiaeth a thargedau hinsawdd." 

 

Mae sicrhau bod y project Fforestydd Glaw Tymherus yn gweithio i bobl ac i fyd natur yn nod allweddol i'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt. Felly, mewn trydydd project bydd y tîm ym Mangor yn archwilio'r ffordd orau o weithio gyda rheolwyr tir a chymunedau i alluogi gwaith plannu coed a gwaith adfer. Bydd eu hymchwil yn edrych ar y costau a'r manteision i randdeiliaid a'r cymhellion sy'n deillio o hynny a'r rhwystrau canfyddedig ac yn archwilio i weld beth yw'r ffordd orau o ymgysylltu a chydweithio â phobl. Caiff y gwaith ei wneud drwy gyfrwng efrydiaeth ddoethurol a gaiff ei hariannu drwy Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru.

 

Bydd cefnogaeth hanfodol yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac Aviva yn golygu y bydd canfyddiadau'r tîm yn gwneud cyfraniad pwysig at wireddu'r weledigaeth o adfer y fforestydd glaw tymherus ar draws ardaloedd addas o'r Deyrnas Unedig dros gyfnod o gan mlynedd.

 

Meddai Dr Ruth Swetnam, Rheolwr Ymchwil a Charbon Rhaglen Fforestydd Glaw'r Iwerydd yn yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt: 

"Mae adfer y cynefinoedd hardd, hynafol yma yng nghefn gwlad yn alwedigaeth i'r tîm yma yn yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt – ond mae angen i'n gwaith ar lawr gwlad gael ei ategu gan dystiolaeth wyddonol o'r ansawdd uchaf. Mae gennym gymaint i'w ddysgu er enghraifft am sut mae mwsogl a chen yn amsugno nwyon tŷ gwydr, a bydd y manylion hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr i'n rhaglen uchelgeisiol ni. Dan ni'n ddiolchgar iawn bod ein partneriaid yn Aviva yn cydnabod hynny ac yn ein helpu i ddatblygu màs critigol o arbenigedd sydd gyda'r gorau yn y byd yma ym Mhrifysgol Bangor."

 

Meddai Claudine Blamey, Prif Swyddog Cynaliadwyedd yn Aviva:

"Yn Aviva, rydym yn cydnabod bod mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur yn gofyn am fuddsoddiad hirdymor mewn ecosystemau ac mewn datblygu tystiolaeth. Dyna pam ein bod yn falch o gefnogi ymchwil arloesol Prifysgol Bangor i adfer fforestydd glaw tymherus. Bydd y gwaith hwn nid yn unig yn dyfnhau ein dealltwriaeth o'r cynefinoedd prin a hanfodol hyn ond bydd hefyd yn llunio atebion ymarferol sy'n meithrin gwytnwch yn wyneb newid hinsawdd, yn amddiffyn ecosystemau hanfodol, ac yn lleihau'r risg o lifogydd i gartrefi a busnesau, gan helpu'r Deyrnas Unedig i baratoi ar gyfer y dyfodol. Dyma gam arall ymlaen yn ein rhaglen 100 mlynedd sy'n werth £38 miliwn i helpu i adfer fforestydd glaw Ynysoedd Prydain gyda'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt." 

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Ian

    10:00am - Noon

    Ian ar MônFM rhwng 10 a 12!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'