Pwllheli: enwi dyn 'gofalgar' a fu farw ar yr A499

Tuesday, 31 March 2026 11:05

By MônFM Newsroom

Llun teulu (Heddlu Gogledd Cymru)

Mae dyn 20 oed o Bwllheli a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd wedi eu enwi.

Roedd Elis Ogilvy-Barsdley yn gyrru car Ford Fiesta du pan wrthdarodd ag Audi A3 coch ar yr A499 yn Y Ffôr tua 10.10yh nos Sadwrn diwethaf.

Bu farw Mr Ogilvy-Bardsley yn y fan a'r lle a chafodd tri o bol ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mewn terynged drwy'r heddlu, dwyeddod ei deulu: "Roedd Elis yn fab, brawd, ŵyr, nai a chefnder gofalgar ac ystyriol."

"Byddwn ni'n colli ei wylio yn chwerthin, yn jocian a chwarae hefo'i frodyr a chwiorydd iau a oedd yn edrych i fyny ato fo ac wrth eu bodd hefo'r amser a dreulion nhw hefo'i gilydd yn cael hwyl."

"Roedd o'n mwynhau treulio amser hefo'i ffrindiau, yn teithio a chefnogi timau pêl-droed Cymru a Manchester United."

Roedd Mr Ogilvy-Barsdley yn byw ym Mwllheli hefo'i fam, ei dad, ei chwaer iau a'i frawd. Roedd yn gweithio yn y siop Asda yn ei dref enedigol ac wedi cael ei dderbyn i Brifysgol Bangor lle'r oedd yn paratoi i astudio'r Cyfryngau.

Ychwanegodd ei deulu: "Byddwn ni'n colli sut roedd yn goleuo pob ystafell am byth, sut y byddai pobl yn cael eu tynnu ato fo ac mai ef oedd bywyd ac enaid y parti bob amser."

"'Da ni wedi torri'n calonnau bod Elis wedi cael ei gymryd oddi wrthon ni mor drychinebus. Mae ein bywydau ni fel teulu wedi cael eu newid am byth. 'Da ni'n gofyn bod ein preifatrwydd ni'n cael ei barchu wrth i ni ddod i delerau hefo'n colled ni."

Bu AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, yn ymweld â theulu Ellis yn eu cartref ym Mhwllheli ddydd Mawrth

Mewn teyrnged bellach, dywedodd AS Plaid Cymru: "Mae’n glir bod ei golled wedi cyffwrdd pobl ar draws ein cymuned."

"Mae fy meddyliau a meddyliau cymaint o bobl ledled Llŷn a thu hwnt gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr Elis ar yr adeg anodd tu hwnt hon. Mae hwn yn amser trist ac heriol i bawb a oedd yn adnabod Elis - fwyaf oll ei deulu."

"Boed iddynt gael cysur yng nghwmni ei gilydd ac yn yr arllwysiad o gariad gan y gymuned y galwodd Elis yn gartref."

Dwyeddod llefarydd ar ran Asda ym Mwllheli: "Roedd Elis wedi bod yn rhan o deulu Asda Pwllheli ers bron i bedair blynedd, ac yn aelod gwerthfawr iawn o’r tîm. Mi fydd o’n cael ei golli’n arw gan ei ffrindia’ a’i gydweithwyr i gyd."

"Mae ein meddyliau ni a’n cydymdeimlad dwysaf efo teulu a ffrindiau Elis ar yr adeg anodd iawn yma."

Mae swyddogion cyswllt gan Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i gefnogi teulu Elis.

Mae'r ymchwiliad yn parhau ac mae swyddogion Uned Plismona Ffyrdd yn apelio at unrhyw un sydd hefo gwybdoaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 26000247901.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'