Mae Cyngor Gwynedd yn paratoi strategaeth economaidd hirdymor newydd ar gyfer y sir.
Mae'r cabinet wedi cefnogi'r camau cyntaf tuag at fabwysiadu cynllyn newydd o'r dan enw "Economi sy'n Gweithio i Bawb: Gwynedd 2035" gyda thri thema allweddol - mentergarwch, pobl a lle.
Yn seiliedig ar fewnbwn gan bartneriaid a rhanddeiliaid, yn cynnwys mentrau, sefydliadau a'r trydydd sector, mae'r strategaeth yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer "economi arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy'n cryfhau'r Gymraeg, yn creu cyfleoedd newydd ac yn cyfrannu at lesiant pawb."
Dwyeddod arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys: "Rydym eisiau economi sy'n rhoi cyfle i bobol Gwynedd fyw bywydau cyflawn a gwireddu eu llawn botensial; economi sy'n cryfhau'r iaith Gymraeg a'n hamgylchedd naturiol sy'n gwneud ein sir mor unigryw."
"Mae'r strategaeth hwn yn rhoi arweiniad clir a chryf ar gyfer llywio datblygiadau sy'n effeithio ar drigolion Gwynedd, a chadw buddion yn lleol. Bydd cydweithio â phartneriaid yn rhan greiddiol o'r weledigaeth."
I wireddu'r strategaeth, bydd y cyngor yn sefydlu fforwm economi, gan cynnwys sefydliadau sy'n cyfrannu at ffyniant yn lleol, a'r cyrff sy'n gweithio i ddatblygu economi yn lleol.
Mae gwaith eisoes ar droed i lunio Cynllun Cyflawni sy'n ymateb i flaenoriaethau'r strategaeth; bydd y cynllun yn mapio gweithgareddau presennol ac yn fodd o adnabod prosiectau dymunir eu hariannu drwy law ffynonellau megis cronfa twf lleol Llywodraeth Cymru.
Bydd cais i fabwysiadau'r strategaeth yn cael ei gyflwyno i'r cyngor llawn ym mis Mai.
Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod y cabinet dros yr economi: "Mae digon o botensial yma – yn ein trigolion, ein cymunedau a'n entrepreneuriaid; ond nid yw'r potensial hwnnw yn cael ei wireddu bob tro."
"Rhaid creu economi sy'n dod â budd i bawb drwy greu cyflogaeth newydd, lleihau tlodi a gwella ansawdd bywyd ledled y sir."


Dirwy i ddynes am dwyll cosmetig
Caergybi: cyhuddo dyn o ymosodiad rhywiol
Caernarfon: datgelu hanes cudd Afon Cadnant
System barcio newydd yng Nghoedwig Niwbwrch
Cronfa yn ailagor ar gyfer prosiectau cymunedol