System barcio newydd yng Nghoedwig Niwbwrch

Tuesday, 10 March 2026 17:28

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Colin Park)

Bydd system barcio newydd yn cael ei chyflwyno yng ngwarchodfa natur a choedwig Niwbwrch cyn y Pasg.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gosod systemau adnabod platiau rhif awtomatig (ANPR) mewn tri o'i safleoedd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.

Mae'n dilyn ymdrechion i fynd i'r afael â phroblemau parcio yn y pentref a achosir gan lif o ymwelwyr ar adegau brysur.

Bydd y gwaith o’u gosod yn digwydd yn ystod yr wythnos nesaf cyn iddo fynd yn fyw ddydd Llun 30 Mawrth, mewn pryd ar gyfer gwyliau'r ysgol.

Mae gan ymwelwyr hyd at hanner nos ar y diwrnod y maen nhw’n cyrraedd i dalu am barcio ac mae ffenestr o 30 munud ar ôl cyrraedd lle na chodir tâl arnynt. 

Ni chaniateir parcio dros nos ar unrhyw safle CNC a gallai’r rhai sy'n cael eu dal wynebu dirwy.

Meddai Neil Stoddart, pennaeth datblygu masnachol cynaliadwy CNC: "Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda First Parking a RingGo i gyflwyno’r system barcio newydd yn y tair cyrchfan boblogaidd hyn."

"Yn ogystal â darparu gwasanaeth gwell i ymwelwyr, bydd y system newydd yn darparu teledu cylch cyfyng a fydd yn cynorthwyo gydag adrodd ac ymchwilio i ymddygiad gwrthgymdeithasol a bydd yn caniatáu inni fonitro a chyhoeddi hysbysiadau taliadau cosb i’r rhai sy’n parcio dros nos yn ein meysydd parcio."

"Bydd yr incwm a gynhyrchir yn cael ei ailfuddsoddi yn ein hasedau hamdden ac amgylcheddol yn yr ardal i’n helpu i gefnogi cymunedau ac ymwelwyr i gysylltu â’r awyr agored a natur."

 

Bydd y system ANPR hefyd yn cael ei chyflwyno yng Nghoed y Brenin ger Dolgellau ac ym Mwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth.

Gellir gwneud taliadau ar-lein, drwy ap neu gyda cherdyn mewn peiriannau parcio ar y safleoedd a gall ymwelwyr ymestyn eu hamser parcio ar-lein neu drwy ddefnyddio'r ap.

 

Bydd deiliaid Bathodyn Glas yn parhau i allu parcio am ddim ac ni fydd unrhyw newid i drigolion sy'n gymwys i gael parcio am ddim. 

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 6:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'