Mae Derek Evans o Lannerch-y-medd wedi ennill Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled 2026.
Ers bron i 50 mlynedd, mae Derek wedi gwirfoddoli’n gyson gyda’r Urdd yn Ynys Môn a thu hwnt.
Dechreuodd fel Ysgrifennydd Pwyllgor Cylch Caergybi yn 1975, cyn ymuno fel aelod o bwyllgor y rhanbarth, ac bellach wedi cadeirio’r pwyllgor am dros 30 mlynedd.
Yn ogystal â’i waith ar bwyllgorau lleol, mae hefyd wedi bod yn trefnu, arwain a chefnogi digwyddiadau yn ei gymuned.
Cafodd yr wobr ei cyhoeddi yn ystod Eisteddfod Rhanbarth Ynys Môn yn Amlwch ddydd Sadwrn a bydd Derek yn cael ei anrhydeddu’n swyddogol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar Faes Mona ym mis Mai.
Meddai Elliw Mai Hughes, aelod o fforwm ieuenctid Ynys Môn: "Fydda’r cyfleoedd i bobl ifanc ddim yn bodoli heb gefnogwyr, a’r cefnogwr mwyaf sydd gan Ynys Môn yw Derek."
"Dyma ddyn sy’n rhoi yn ddi-ddiwedd yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc Môn.‘Sa fy mhrofiadau i ar yr ynys ddim yr un peth heb gyfraniadau Derek."
Roedd Derek yn aelod allweddol o'r criw wnaeth ail-sefydlu Aelwyd yr Ynys yn ôl yn 2004, cyn i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal ar Ynys Môn.
Mae hefyd wedi chwarae rhan flaenllaw wrth drefnu amrywiaeth o weithgareddau i bobl ifanc yn yr ardal.
Rhai uchafbwyntiau sy’n aros yn y cof i aelodau’r Urdd yn Ynys Môn yw fod Derek wedi trefnu bysiau o bob cwr o’r ynys i gefnogi Catrin Angharad pan oedd hi’n cystadlu yn Cân i Gymru, yn ogystal â sefydlu cyfrif Facebook Urdd Ynys Môn - a hynny cyn i’r Urdd yn ganolog gael cyfrif.
Dyweddod Eryl Williams, rheolwr cymunedol y Gogledd a’r Canolbarth yr Urdd: "Mi allech ddweud mai Derek ydy ‘Mistar Urdd Ynys Môn’".
“Dyw Derek byth yn methu Eisteddfodau Rhanbarth Ynys Môn, ble mae’n brysur yn sicrhau bod trefniadau’r dydd yn rhedeg yn esmwyth a bod llwyfan teg i bob cystadleuydd."
“Yn lleol mae wedi cefnogi uwch adran Rhosmeirch, ac yn flynyddol mae’n gwirfoddoli gyda cystadlaethau celf yr Eisteddfod."
"Mae Derek hefyd yn wyneb cyfarwydd yng ngwersylloedd yr Urdd, gan iddo drefnu degau o deithiau er mwyn sicrhau bod plant ei ardal yn cael y cyfle i brofi awyrgylch byrlymus y gwersylloedd."
"Mae’n hen law ar drefnu, arwain a chefnogi digwyddiadau yn ei gymuned, ac yn ffigwr hynod boblogaidd yn ei ardal - yn enwedig ymysg y plant a’r bobl ifanc."
"Yn ei grynswth, mae ei gyfraniad yn enghraifft o wir wasanaeth gwirfoddol - cyson, ymarferol ac yn llwyr ymroddedig i ddatblygiad plant a phobl ifanc drwy’r Gymraeg a diwylliant yr Urdd."
Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled ei roi yn flynyddol gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.
Ychwanegodd Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydol yr Urdd: "Mae Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled yn wobr arbennig iawn – ac mae Derek yn ei llawn haeddu eleni."
"Fyddai’r Eisteddfod ddim yn bodoli heb waith di-flino ein gwirfoddolwr ar lawr gwlad ac rydym yn hynod o ddiolchgar o'r gwaith mae pobl fel Derek yn ei wneud dros yr Urdd ar hyd a lled y wlad."