Trenau ychwanegol ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd

Friday, 23 January 2026 11:53

By Ystafell Newyddion MônFM

TrC

Bydd cefnogwyr Cymru sy'n teithio i gemau ail gyfle Cwpan y Byd yn gallu dychwelyd adref i Ynys Môn a Gwynedd ar yr un noson.

Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn treialu gwasanaeth uniongyrchol o Gaerdydd i Gaergybi yn dilyn y rownd gynderfynol yn erbyn Bosnia Herzegovina ar 26 Mawrth - ac o bosibl, y rownd derfynol yn erbyn yr Eidal neu Ogledd Iwerddon ar 31 Mawrth.

Am y tro cyntaf, bydd gwasanaeth ôl-gêm pwrpasol am 11yh rhwng Caerdydd a Chaergybi, gwasanaeth y gall cefnogwyr ei ddefnyddio i ddychwelyd adref yr un noson.

Gwnaed y gwasanaeth yn bosibl yn dilyn adborth gan gwsmeriaid a chydweithio agos gyda Network Rail gan gytuno ar newid amserlen gwaith arfaethediga, ymestyn oriau agor y blychau signalau a pharatoi adnoddau ychwanegol ar gyfer criw trên a fflyd.

Dywedodd Georgina Wills, rheolwr chynllunio digwyddiadau TrC: "Rydyn ni wedi gwrando ar ein cwsmeriaid, ac rydyn ni'n gwybod bod cyrraedd adref i Ogledd Cymru yn dilyn gem pêl -droed hwyr wedi bod yn her yn y gorffennol."

"Trwy weithio gyda'n partneriaid yn Network Rail, rydym yn falch o dreialu'r gwasanaeth uniongyrchol 23:00 hwn i Gaergybi i sicrhau bod cefnogwyr yn cyrraedd adref yn ddiogel."

"Er mai treial yw hwn ar hyn o bryd, rydym am iddo lwyddo ac yn annog cefnogwyr i fanteisio ar y gwasanaeth a theithio gyda ni."

Er bod TrC wedi darparu gwasanaethau yn dilyn digwyddiadau yn gyson i Wrecsam a Chaer yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gall cynnig gwasanaeth uniongyrchol i Gaergybi yn hwyr yn y nos alluogi cefnogwyr i deithio i gefnogi'r tîm cenedlaethol heb fod angen llety dros nos arnynt.

Dywedodd Rachel Heath, cyfarwyddwr gweithrediadau Network Rail Cymru a'r Gororau: "Trwy wneud newidiadau i amserlen gwaith peirianneg, ymestyn oriau agor y blychau signalau a sicrhau bod yr adnoddau cywir ar gael, rydym yn cefnogi teithio diogel a dibynadwy yn hwyr y nos yn dilyn digwyddiadau cenedlaethol mawr."

"Mae'r cydweithrediad hwn yn dangos sut y gallwn ymateb i adborth a gwneud i wasanaethau trenau weithio'n well i deithwyr pan fo'r galw ar ei uchaf."

Ychwanegodd Macsen Jones, swyddog gweithredol ymgysylltu â chefnogwr CBDC: "Yn ystod ein ymgynghoriadau gyda'r cefnogwyr a’r adborth a gawsom, mae'r posibilrwydd ar gyfer creu’r llwybr hwn wedi codi’n gyson fel un a fyddai'n help mawr i gefnogwyr ddychwelyd adref i Ogledd Cymru ar ôl gemau."

"Rydym yn ddiolchgar i TrC am fynd ati i gydweithio a chreu'r llwybr hwn a'u hymrwymiad i weithio gyda ni i sicrhau bod cefnogwyr yn mwynhau profiad teithio cadarnhaol a di-drafferth wrth deithio i gemau."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Mid-Week Smooth

    11:00pm - Midnight

    Join Dai Sinclair for an hour of Smooth music to finish the night on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'