Trysorau Môn mewn arddangosfa newydd

Saturday, 28 March 2026 12:39

By Ystafell Newyddion MônFM

Oriel Môn

Mae arddangosfa newydd wedi agor gan daflu goleuni ar dreftadaeth archeolegol Ynys Môn.

Mae Trysor yn dwyn ynghyd detholiad arbennig o arteffactau o gasgliad Oriel Môn yn Llangefni, ynghyd â darganfyddiadau newydd, o'r cyfnod Neolithig hyd at y cyfnod Canolesol.

Mae uchafbwyntiau’n cynnwys yr unig drysorfa o ddarnau arian aur o’r Oes Haearn a gafodd eu darganfod yng Nghymru erioed, yn ogystal â gwrthrychau sydd newydd eu darganfod o Lyn Cerrig Bach, un o safleoedd archeolegol pwysicaf y wlad.

Bydd llawer o’r gwrthrychau sydd i’w gweld yn yr arddangosfa yn cael eu dangos i’r cyhoedd am y tro cyntaf.

Yn ôl Oriel Môn, bydd yr arddangosfa’n yn gwahodd cynulleidfaoedd i archwilio’r straeon y tu ôl i’r gwrthrychau a’r bobl a fu’n byw ar yr ynys ar un adeg, gan dynnu sylw at arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol hirhoedlog yr ynys.

Dywedodd Kelly Parry, uwch reolwr: "Trwy ddefnyddio’r amrywiaeth ddiddorol o wrthrychau sydd wedi cael eu darganfod ar Ynys Môn, mae Trysor yn archwilio’r syniad o drysor yn ei ystyr ehangaf - o drysorau sydd wedi cael eu diffinio’n gyfreithiol i wrthrychau sy’n brin, yn brydferth ac yn ystyrlon."

"Mae'r arddangosfa hon hefyd yn dathlu cryfder ac arwyddocâd cynyddol casgliad archaeoleg Oriel Môn, wrth i ddarganfyddiadau newydd barhau i drawsnewid ein dealltwriaeth o hanes cyfoethog Ynys Môn."

Mae arddangosfa Trysor ar agor yn Oriel Môn bob dydd Mawrth i ddydd Sul o 10yb-5yh ac yn ystod Gwyliau Banc ar ddydd Llun tan 4 Ebrill 2027. Mynediad am ddim.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Sunday Morning with Gwyn Owen

    9:00am - Noon

    Join Gwyn Owen as he starts the day on MônFM by playing some great relaxing music.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'