Mae MônFM yn falch o gyhoeddi bod Terry Phipps yn dychwelyd i'r orsaf i gyflwyno dwy raglen foreol newydd bob wythnos.
Bydd Terry, cyn-gyflwynydd ar hen orsaf masnachol Champion 103, ar yr awyr bob dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 10am a 1pm, gan ddechrau ym mis Gorffennaf.
Roedd Terry hefyd yn rhan o dîm MônFM pan ddechreuodd yr orsaf ddarlledu'n llawn amser ar FM ym mis Gorffennaf 2014, gan gyflwyno'r sioe frecwast.
Yn ystod ei gyfnod fel cyflwynydd ar Champion (Heart yn ddiweddarach, yna Capital Cymru), roedd rhaglen Terry ymhlith yr 20 rhaglen prynhawn (“Drivetime”) fwyaf poblogaidd ym Mhrydain.
Mae hefyd wedi cyflwyno sioeau ar gyfer gorsaf Radio Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Dyweddod Kev Bach, rheolwr rhaglennI MonFM: "Mae hyn yn newyddion gwych i MônFM. Bydd arddull ddarlledu broffesiynol, gyfeillgar a difyr Terry yn apelio at ein gwrandawyr presennol ac at wrandawyr newydd hefyd."
"Mae gennym ni ragor o raglenni newydd yn dechrau’r mis nesaf, gyda mwy o fanylion i ddilyn yn fuan."
Croeso cynnes i Terry i deulu MônFM!


Terry Phipps returns to MônFM
Bringing the beach to Llangefni