RGC i gynnal gêm deyrnged i Jack Davies

Monday, 26 October 2026 at 15:36

By Ystafell Newyddion MônFM

RGC

Bydd RGC yn chwarae eu gêm gyntaf ers marwolaeth sydyn Jack Davies ddydd Sadwrn nesaf.

Roedd y chwaraewr 24 oed o Lanfairpwll yn ail reng i glwb Super Rygbi Cymru ac i Glwb Rygbi Caernarfon.

Cafodd gemau'r tîm cyntaf i'r ddau dîm eu gohirio ddydd Sadwrn diwethaf fel arwydd o barch at Jack, a oedd hefyd yn athro yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.

Mewn llythyr agored at y cefnogwyr, mae' RGC wedi cadarnhau y bydd yn chwarae ei gêm nesaf ar Barc Eirias ym Mae Colwyn – yn erbyn Pont-y-pŵl ddydd Sadwrn – fel teyrnged.

Mae'r rheolwr cyffredinol, Alun Pritchard, wedi diolch i'r cefnogwyr am "y gefnogaeth, y caredigrwydd a'r ddealltwriaeth" a ddangoswyd "i Jack, i deulu Jack ac i Glwb Rygbi Caernarfon dros y dyddiau diwethaf".

Dyweddod: "Mae hyn yn rhywbeth nad yw llawer o'n chwaraewyr ifanc erioed wedi'i brofi o'r blaen, ac mae gwybod sut i ymateb, beth i'w ddweud neu hyd yn oed sut i deimlo wedi bod yn anhygoel o anodd."

"Nid oes ffordd gywir nac anghywir o brosesu rhywbeth fel hyn, a bydd pawb yn delio a’r sefyllfa yn eu ffordd eu hunain."

"Yr hyn rwy'n ei wybod yw ein bod ni'n dîm sy'n gofalu am ein gilydd. Byddwn ni'n sefyll gyda'n gilydd, yn cefnogi ein gilydd ac, ymhen amser, yn dod o hyd i'n ffordd ein hunain i symud ymlaen wrth gofio ac anrhydeddu Jack."

"Ymhlith rhinweddau niferus Jack roedd ei wydnwch a'i gryfder mewnol. Er iddo wynebu nifer o anafiadau a oedd wedi'i gadw allan o'r gêm am fwy na 18 mis, ni roddodd y gorau iddi erioed."

"Roedd yn benderfynol o chwarae rygbi ac, yn bwysicach fyth, roedd yn benderfynol o gynrychioli RGC. Mae hynny'n dweud popeth am y person."

"Er mor anodd ag ydyw, rhaid i ni nawr dynnu ar yr un gwydnwch a chryfder hwnnw, gan gefnogi ein gilydd a chario atgof Jack gyda ni wrth i ni symud ymlaen."

"Mae llawer o bobl wedi gofyn beth allant ei wneud i helpu, ac mae fy ateb yn syml: dewch i gefnogi'r chwaraewyr, cefnogwch y tîm, cefnogwch ein staff a helpwch ni i anrhydeddu atgof Jack."

"Byddwn ni’n mynd i’r cae yn erbyn Pont-y-pŵl ar 31 Hydref, a bydd y gêm hon yn cael ei chwarae fel teyrnged i Jack. Am unwaith, nid y canlyniad yw’r peth pwysig. Mae’n ymwneud â dod at ein gilydd fel Teulu RGC, sefyll ysgwydd wrth ysgwydd a chofio un o’n rhai ni ein hunain."

"Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion am y gêm yn y dyddiau nesaf. Yn y cyfamser, diolch i chi am barhau i ddangos cydymdeimlad, yr undod a'r gefnogaeth sy'n gwneud RGC yn gymaint mwy na thîm rygbi."

"Edrychaf ymlaen at eich gweld chi gyd yn Stadiwm Eirias wrth i ni ddod at ein gilydd i gofio Jack."

Cafodd gêm Caernarfon gartref yn erbyn Pwllheli yng nghynghrair Admiral ei gohirio ddydd Sadwrn, ynghyd â gêm eu hail dîm yn erbyn Bae Colwyn.

Dyweddod llefarydd ar ran y clwb: "Roedd Jack yn rhan o deulu Clwb Rygbi Caernarfon, ac rydym yn dal i feddwl yn daer am ei deulu, ei ffrindiau, a phawb oedd yn ei adnabod ac yn ei garu yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Mae Caernarfon yn dychwelyd ddydd Sadwrn gyda gêm gartref yn erbyn Pwllheli yn y Cwpan Adran Gyntaf.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Chwaraeon

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Yvonne Gallienne

    1:00pm - 4:00pm

    Three hours of great music with Yvonne on MônFM!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'