Ymddeol crys rygbi i gofio Jack

Friday, 30 October 2026 at 14:28

By Ystafell Newyddion MônFM

Clwb Rygbi Caernarfon

Mae Clwb Rygbi Caernarfon wedi ymddeol crys rhif 5 am weddill y tymor fel teyrnged i Jack Davies.

Bu farw'r athro a'r chwaraewr rygbi o Lanfairpwll yn 24 oed yn gynharach y mis hwn.

Gohiriodd y Cofis eu gêm yn erbyn Pwllheli y penwythnos diwethaf fel arwydd o barch, ond ddydd Sadwrn, bydd y ddau glwb o Wynedd yn chwarae eu gêm rownd gyntaf yng Nghwpan Adran Un yn Y Morfa.

Dywedodd llefarydd ar ran CR Caernarfon: "Fel teyrnged i Jack, byddwn yn ymddeol crys rhif pump y tîm 1af ar gyfer gweddill y tymor."

"Roedd yn bleser gwylio Jack yn chwarae yn y rhif, a teimlwn fel tîm bod y dewis yma yn destament i’w gof."

Ar ôl ymuno â Chlwb Rygbi Caernarfon yn 12 oed fel athletwr addawol, datblygodd mewn amrywiaeth o dimau a llwyddodd i fod yn rhan o lwybr RGC, cyn symud i lawr i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i astudio addysg gorfforol a chwaraeon am dair blynedd.

Mewn terygned, dwyeddod y clwb: "Fel chwaraewr iau ac hyn, fe fyddwn bob amser yn ei gofio am ei gam enfawr, ei 'hand-off' pwerus a'i alu i sgorio ceisiau er hwyl yn aml iawn o'i hanner ei hun o'r cae."

"Roedd yn rhan annatod o'r tim iau mwyaf llwyddiannus o fewn y clwb a enillodd 58 gêm yn olynol dros gyfnod o dair blynedd".

"Fel chwaraewr hyn yn 2025 roedd yn allweddol wrth sichrau ein buddugoliaeth yn y rownd gynderfynol yn erbyn Skewen gan sgorio cais allweddol cyn i anaf difrifol olygu na alli chwarae yn y rownd derfynol yn Stadiwm y Principality."

"Er gwaethaf y siom personol, chwaraeodd ran hanfodol wrth gefnogi'r tîm ac roedd ei wen a'i agwedd gadarnhaol yn disgleirio yn y cyfnod cyn y rownd derfynol."

"Er bod o'n hynod siomedig nid oedd yn chwerw o gwbl am beidio cael chwarae yn y rownd derfynol. Roedd hyn yn nodwedd o gymeriad gwirioneddol brydfferth a hael Jack."

Cyn y gêm gwpan ddydd Sadwrn, ychwanegodd y clwb: "Am unwaith, nid y canlyniad yw'r peth pwysicaf."

"Mae'n ymwneud â dod at ei gilydd fel 'Teulu'r Cofis'' yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd ac i gofio un o'n chwaraewyr disgleiriaf."

Bydd RGC hefyd yn talu teyrnged i Jack yn ystod eu gêm Super Rygbi Cymru yn erbyn Pont-y-pŵl ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn ddydd Sadwrn.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Chwaraeon

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Yvonne Gallienne

    1:00pm - 4:00pm

    Three hours of great music with Yvonne on MônFM!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'