Cyllid ar gyfer twristiaeth beicio cyn Le Tour

Tuesday, 27 October 2026 at 12:45

By Ystafell Newyddion MônFM

LC

Bydd dros £467,000 yn cael ei wario ar hybu twristiaeth beicio yn Ynys Môn a Gwynedd cyn y 'Grand Départ' gan Le Tour de France yn 2027.

Bydd tua £100,000 o gyllid Llywodraeth Cymru yn mynd tuag at Lwybr Beicio Arfordirol Porth Môn yng Nghaergybi.

Bydd y prosiect, sy’n cael ei gyflawni gan Gyngor Môn, yn ei gwneud yn haws i drigolion ac ymwelwyr archwilio arfordir, cymunedau ac atyniadau’r ynys ar gefn beic, gan greu mwy o gyfleoedd i fusnesau twristiaeth lleol.

Mewn mannau eraill, bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn derbyn £122,000 ar gyfer tri chynllun i wella seilwaith beicio, gan gynnwys gwelliannau i lwybr Mawddach.

Mae 2027 wedi'i ddynodi'n Blwyddyn Beicio i Gymru, wrth i'r DU baratoi i gynnal 'Grand Départ' ar gyfer ras feicio fwyaf y byd, sy'n gorffen gyda cham o'r Trallwng i Gaerdydd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ychydig o dan £3.2 miliwn wedi’i ddyfarnu i 54 o brosiectau fel rhan o’i rhaglen ‘Croeso i Feicwyr’, ynghyd â £1.3 miliwn pellach ar gyfer ei chronfa ‘Busnes yn Barod’.

Bydd ymgyrch hyrwyddo yn cynnwys lansio offeryn mapio rhyngweithiol newydd yn dod â llwybrau beicio a chyrchfannau o safon ryngwladol ynghyd, ynghyd â phrosiectau sy’n gweithio gyda busnesau a chymunedau, yn helpu i arddangos Cymru fel cyrchfan beicio.

Dywedodd y Gweinidog Menter, Adam Price: "Mae Grand Départ y Tour de France yn gyfle unigryw i Gymru."

"Wrth i ni baratoi i groesawu ras feicio fwyaf y byd, rydym yn buddsoddi mewn cyfleusterau a phrofiadau a fydd yn annog mwy o bobl i archwilio Cymru ar ddwy olwyn, gan helpu busnesau lleol i elwa ar dwf twristiaeth feicio."

"O lwybrau arfordirol a hybiau beicio cymunedol i rai o ddringfeydd mwyaf heriol Cymru, bydd y prosiectau hyn yn helpu i droi cyffro’r Tour yn gyfleoedd parhaol i gymunedau ledled y wlad."

"Rydym am i’r manteision bara ymhell ar ôl i’r ras ddod i ben, gan greu etifeddiaeth barhaol i dwristiaeth, chwaraeon a’r economi yng Nghymru."

Dyma'r prosiectau lleol sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru:

Cyngor Môn

  • £100,000 - Gwelliannau i Lwybr Beicio Arfordirol Porth Môn Caergybi
  • £79,664 - Cysylltu Pobl, Lleoedd a Phrofiadau

Cyngor Gwynedd

  • £86,848 - O'r Mynydd i'r Mor
  • £77,952 - O'r Llechi i'r Lli

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

  • £48,758 - Gwella Seilwaith Beicio yn Eryri
  • £25,032 - Llwybr y Mawddach: Gwella’r Profiad Beicio

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Yvonne Gallienne

    1:00pm - 4:00pm

    Three hours of great music with Yvonne on MônFM!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'