Mae dros 14,000 o bobl ifanc o Ynys Môn wedi cofrestru i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.
Mae trefnwyr hefyd wedi cadarnhau record newydd ar gyfer ceisiadau mewn Eisteddfod yn y Gogledd - 118,089 o gofrestriadau, gyda cynydd yn y nifer o gystadleuwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd rhan.
Gwelwyd mwy nag erioed o blant a phobl ifanc Ynys Môn yn cofrestru i gystadlu yn yr ŵyl, gyda 14,060 cofrestriad.
Mae gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop wedi cael ei hymestyn i saith diwrnod am y tro cyntaf i fodloni'r galw cynyddol am fwy o gystadlaethau.
Mae'r pwyllgor gweithredol lleol wedi diolch i gefnogwyr a chodwyr arian ar ôl cyrraedd eu targed o £380,000 gydag wythnos i sbario.

Dyweddod Manon Wyn Williams, cadeirydd pwyllgor gwaith: "Carwn ddiolch i drigolion yr ynys sydd wedi dod ynghyd dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf i baratoi at yr Eisteddfod."
"Rydyn ni wedi bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr wythnos hon ac mae’n brofiad arbennig gweld penllanw’r holl waith caled a chael, o’r diwedd, estyn croeso i bawb i Fôn."
Ar wahân i'r newidiadau fformat, mae'r Maes hefyd yn cynnwys cyfres o ardaloedd newydd gan gynnwys 'Pabell Piws' a 'Garddorfa' gwell ar gyfer tawelwch a gorffwys, ynghyd ag ardal Adran i blant ysgol gynradd, cornel Aelwyd i bobl ifanc ac ystafell athrawon.
Cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, George North, a ymddeolodd o rygbi proffesiynol yn ddiweddar, oedd y cyntaf o Lywyddion y Dydd.
- Croeso!
- Croeso i'r Maes
- Pafiliwn Coch
- Hapus!
- Pafiliwn Gwyn
- Panel gyda Gareth Yr Orangutan
- Pafiliwn Gwyrdd
- Maes Parcio
- Ymarfer cyn cystadleuaeth
- Llwyfan y Canlyniadau
- Tesni Hughes
- Canlyniadau...
- Yr Argraff
- Liam J Edwards
- Tent Triban
- Cerddoriaeth byw yn Tent Triban
- Parti-Lw!
- Welsh Whisperer yn Tent Trbian
- Cerddoriaeth byw yn stondin Prifysgol Bangor
- Alis Glyn
- Canlyniadau gyda Mari Lovgreen


Eisteddfod yr Urdd 2026: canlyniadau lleol
Urdd Eisteddfod 2026: local results
Seven Honorary Presidents for Urdd 2026
Tudur Owen yw llywydd dydd Sul