Urdd 2026: 14,000 o Môn yn cofrestru

Sunday, 24 May 2026 08:02

By Ystafell Newyddion MônFM

Urdd Gobaith Cymru

Mae dros 14,000 o bobl ifanc o Ynys Môn wedi cofrestru i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.

Mae trefnwyr hefyd wedi cadarnhau record newydd ar gyfer ceisiadau mewn Eisteddfod yn y Gogledd - 118,089 o gofrestriadau, gyda cynydd yn y nifer o gystadleuwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd rhan.

Gwelwyd mwy nag erioed o blant a phobl ifanc Ynys Môn yn cofrestru i gystadlu yn yr ŵyl, gyda 14,060 cofrestriad.

Mae gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop wedi cael ei hymestyn i saith diwrnod am y tro cyntaf i fodloni'r galw cynyddol am fwy o gystadlaethau.

Mae'r pwyllgor gweithredol lleol wedi diolch i gefnogwyr a chodwyr arian ar ôl cyrraedd eu targed o £380,000 gydag wythnos i sbario.

Dyweddod Manon Wyn Williams, cadeirydd pwyllgor gwaith: "Carwn ddiolch i drigolion yr ynys sydd wedi dod ynghyd dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf i baratoi at yr Eisteddfod."

"Rydyn ni wedi bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr wythnos hon ac mae’n brofiad arbennig gweld penllanw’r holl waith caled a chael, o’r diwedd, estyn croeso i bawb i Fôn."

Ar wahân i'r newidiadau fformat, mae'r Maes hefyd yn cynnwys cyfres o ardaloedd newydd gan gynnwys 'Pabell Piws' a 'Garddorfa' gwell ar gyfer tawelwch a gorffwys, ynghyd ag ardal Adran i blant ysgol gynradd, cornel Aelwyd i bobl ifanc ac ystafell athrawon.

Cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, George North, a ymddeolodd o rygbi proffesiynol yn ddiweddar, oedd y cyntaf o Lywyddion y Dydd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Brecwast MônFM gyda Kev Bach

    7:00am - 10:00am

    Bore da! Mae Kev Bach yn nôl i ddeffro Ynys Môn a Gwynedd!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'