Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi chwarae rhan fawr ym mywyd Rhun ap Iorwerth, sy'n gwneud ei ymweliad cyntaf fel Prif Weinidog.
Mae wedi bod yn ymwelydd rheolaidd ers plentyndod cynnar, wedi cymryd rhan mewn cyflwyniadau dramatig, wedi perfformio ar wahanol lwyfannau fel aelod o grŵp pop a chafodd ei urddo i Orsedd Cymru y llynedd.
Dros y blynyddoedd mae wedi gweithio ar y Maes fel darlledwr yn cyflwyno rhaglenni i'r BBC ac S4C ac wedi gwerthu toesenni er nad yw erioed wedi ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol fel cystadleuydd.
Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi ymweld â'r ŵyl yn ei rôl wleidyddol ac ar ddydd Mawrth, mae'n camu ar y Maes yn rhinwedd ei swydd fel Prif Weinidog am y tro cyntaf.
Yn Aelod Senedd Ynys Môn ers 2013 ac yn arweinydd Plaid Cymru ers 2023, daeth yn Brif Weinidog yn dilyn yr etholiad ym mis Mai eleni a welodd Plaid Cymru yn dod i'r brig fel y blaid fwyaf a chael y dasg o ffurfio Llywodraeth Cymru lleiafrif.
"Bydd yn sicr yn brofiad newydd bod ar y Maes fel Prif Weinidog. Bydd gen i ddyddiadur llawn o ymrwymiadau ond mi fyddaf ar y Maes yn Llantwd sawl diwrnod ac yn edrych ymlaen yn fawr."
"Y rhan fwyaf pleserus o bob Eisteddfod Genedlaethol i mi ydi cerdded o gwmpas y Maes, yn ymweld a stondinau a sgwrsio efo hen ffrindiau," meddai.
Dywedodd Rhun fod ymweld a'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhywbeth y mae wedi'i wneud ers plentyndod.
"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd. Mae gen i frith gof pell o fod yn Eisteddfod Aberteifi yn 1976. Yn y blynyddoedd dilynol, mi fyddwn i'n crwydro o gwmpas y Maes yn casglu sticeri fel mae bron pob plentyn sy'n ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yn ei wneud."
"Pan ddaeth yr Eisteddfod i Llangefni ym 1983, roeddwn i yn pasiant y plant, sioe gerdd am fywyd Huw Cymuned, un o gymeriadau Ynys Môn."
Yn ei arddegau roedd Rhun yn aelod o fand o'r enw 69, a oedd yn gigio o gwmpas Llanrwst a Chwm Rhymni yn ystod yr Eisteddfod.
"Pan adawais y brifysgol ac ymuno â'r BBC, roeddwn i'n gweithio yn yr eisteddfod yn rheolaidd ac yn dod i adnabod gweithrediadau mewnol yr ŵyl," ychwanegodd.
Dros y blynyddoedd mae Rhun ap Iorwerth wedi bod yn weithgar yn ei gymuned, gan wasanaethu fel llywodraethwr ysgol, arwain digwyddiadau a chyngherddau lleol, a chefnogi amrywiol sefydliadau, gan gynnwys cyfnod fel noddwr i elusen y GIG 'Awyr Las'.
Roedd hefyd, yn hyfforddwr ieuenctid yng Nghlwb Rygbi Llangefni am gyfnod.
Mae wedi egluro o'r blaen fod marwolaeth ei fam, Gwyneth Morus Jones, ym mis Rhagfyr 2012 wedi chwarae rhan hanfodol yn ei benderfyniad i roi'r gorau i'w yrfa ddarlledu a cheisio rôl newydd mewn gwleidyddiaeth.
Yn arbenigwraig mewn adrodd, caiff ei chofio yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda chystadleuaeth - Gwobr Goffa Gwyneth Morus Jones am lefaru unigol 16 ac o dan 21 oed.
"Rwy'n gwybod bod fy mam wedi gwneud cyfraniad enfawr i'w chymuned ac i Gymru. Dangosodd y pethau a ddwedwyd amdani yn glir iawn na allwn fynd trwy fywyd heb wneud cyfraniad pe bai hynny'n bosibl o gwbl," meddai.
Roedd Mrs Morus Jones yn athrawes wrth ei phroffesiwn ac yn gyn-lywydd Mudiad Ysgolion Meithrin, undeb athrawon UCAC a Merched y Wawr.
Gwasanaethodd hefyd ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac roedd yn llywydd-etholedig Undeb Eglwysi Annibynnol Cymru ac yn gadeirydd Tribiwnlys Prisio Gogledd Cymru. Roedd hi hefyd yn adnabyddus mewn cylchoedd eisteddfodol a chafodd cryn lwyddiant yn adrodd.
"Roeddwn i'n ymwybodol ei bod hi'n cystadlu ar lefel uchel ac yn llwyddiannus iawn. Roedd ein tŷ ni'n llawn cwpanau a thlysau ond fe stopiodd a chanolbwyntio ar bethau eraill. I'n syndod penderfynodd gystadlu unwaith eto pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i'r Bala yn 2009."
"Cymerodd ran yn y gystadleuaeth i'r rhai dros 25 oed. Roedd yn jôc yn ein plith ei bod ymhell dros yr oedran hwnnw ond fe enillodd a chafodd pleser mawr yn hynny."
"Ar ôl iddi farw roedden ni'n awyddus i sefydlu rhywbeth er cof amdani ac roedden ni'n hapus iawn bod y gystadleuaeth er cof am mam," meddai.
Sefydlwyd Plaid Cymru yn ystod cyfarfod ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli ganrif yn ôl a chydnabu Rhun ap Iorwerth fod y blaid yn naturiol gefnogol i'r Brifŵyl.
"Rydym yn byw mewn cyfnod anodd o ran cyllid ond rwy'n gobeithio y gallwn greu lefel o frwdfrydedd a fydd yn sicrhau datblygiad yr iaith a'r diwylliant Cymraeg drwy'r Eisteddfod, yr Urdd a digwyddiadau eraill fel Y Sioe Fawr."
"Rwy'n gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn ystyried y llywodraeth hwn fel ffrind cefnogol," meddai.


Penri yn ennill Medal R. Alun
Ysgoloriaeth i artist ifanc o Ddeiniolen