Mae adolygiad ymarfer plant wedi'i gyhoeddi i droseddau'r pennaeth padoffilaidd Neil Foden.
Mae’r Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi’r adroddiad yma, o’r enw ‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’. Dyma’r Adolygiad Ymarfer Plant sy’n ymateb i droseddu rhywiol Foden yn Ysgol Friars, Bangor.
Mae Foden yn treulio dedfryd o 17 mlynedd yn y carchar ar ôl iddo gael ei gael yn euog ar 19 cyhuddiad o gam-drin rhywiol yn erbyn merched rhwng 2019 a 2023.
Mae'r adolygiad wedi archwilio'r ymateb aml-asiantaethau cyn i Foden gael ei arestio ym mis Medi 2023.
Mewn datganiad, dwyeddod Jan Pickles, cadeirydd yr adolygiad: "Dylai ysgolion fod yn fannau diogel i blant. Fel rhieni a gofalwyr, rydym yn ymddiried yn y sefydliadau hyn i gadw ein plant yn ddiogel."
"Nid dyma’r achos i rai plant yn Ysgol Friars. Er bod nifer o aelodau staff wedi gweithio’n galed iawn i addysgu ac amddiffyn y plant, roedd yna wendidau mawr yn y trefniadau diogelu - o fewn yr ysgol, o fewn y llywodraethwyr, ac o fewn yr awdurdod lleol."
"Foden roddodd y gwendidau hyn ar waith yn y rolau a’r strwythurau, cyn mynd ati i fanteisio’n greulon arnynt er mwyn gallu niweidio plant pryd bynnag y mynnai."
"Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb amlasiantaethol sy’n galw ar bob asiantaeth i gyfrannu at gadw plant yn ddiogel drwy ddilyn y ddeddfwriaeth, y canllawiau a’r polisïau y cytunwyd arnynt yn ein trefniadau diogelu."
"Yn drychinebus, methodd y trefniadau hyn yn yr achos hwn. Diben adolygiad o’r math hwn yw dysgu, nid gweld bai. Neil Foden sy’n gyfrifol am y niwed a achoswyd i’r bobl ifanc hyn a oedd eisoes yn cael trafferthion; roedd yn targedu plant yr oedd yn gwybod eu bod yn ddiamddiffyn."
"Roedd yn eu neilltuo oddi wrth eu cyfoedion ac oddi wrth amddiffyniad aelodau staff; yr aelodau staff hynny a allai ac a ddylai fod wedi eu hamddiffyn."
"Roedd Foden yn bedoffeil soffistigedig a rheolaethol. Aeth ati i greu diwylliant a oedd yn galluogi iddo droseddu yng ngolwg pawb; yn syml, nid oedd yr oruchwyliaeth a’r gwiriadau rydym ni fel cymdeithas yn eu disgwyl gan y system ddiogelu ac amddiffyn plant ar waith."
"Llwyddodd Foden i’w camddefnyddio er mwyn rhoi rhwydd hynt iddo droseddu. Gwyddom o wrando ar ddioddefwyr bod codi llais a rhoi gwybod am gamdriniaeth a cheisio cymorth yn dasg amhosib i lawer."
"Dyma pam fod nifer o ddioddefwyr yn cadw’r cyfrinachau erchyll hyn nes eu bod yn oedolion, neu mewn rhai achosion yn mynd â nhw i’r bedd."
"Dylai’r dewrder y mae’r bobl ifanc hyn wedi’i ddangos fod yn esiampl i ni oll. Rydym yn hyfforddi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant i adnabod arwyddion a dangosyddion cam-drin plant yn rhywiol."
"Mae dyletswydd arnom ni fel oedolion cyfrifol i feddwl y gwaethaf posib a gweithredu i amddiffyn plant, waeth beth fo’r perygl i’n swyddi; ni ddigwyddodd hyn yn Ysgol Friars."
"Dangosodd y plant eu gofid mewn sawl gwahanol ffordd. Roedd Foden yn chwilio am unrhyw gyfle i fod ar ei ben ei hun gyda phlant - yn ei gar, yn ei swyddfa gyda’r drws ar gau, drwy fynd â nhw i apwyntiadau meddygol; dylai pob un o’r rhain fod wedi codi pryder."
"Mae pob un ohonynt yn gyfle a gollwyd. Yn yr Adolygiad hwn, rydym wedi canfod dros 50 o gyfleoedd a gollwyd i ymyrryd a’i atal. Yn awr, hoffwn droi at yr argymhellion."
"Nod yr argymhellion yw cyflawni’r newid mwyaf sylweddol mewn ciogelu yn ysgolion Cymru mewn cenhedlaeth. Maent yn uchelgeisiol ac fe’u lluniwyd yn rhannol gan y dioddefwyr - defnyddiwyd arsylwadau’r bobl ifanc a niweidiwyd i’w llywio."
"Mae’r dioddefwyr wedi dangos dewrder a chryfder yn gweithio gyda’r adolygiad ar ôl treial llym, a hynny er mwyn i ni allu dysgu pa wersi bynnag y gallwn i amddiffyn plant eraill. Hoffwn ddiolch iddynt o waelod fy nghalon."
"Dewiswyd enw’r adolygiad gan un ohonynt, ac mae hi rŵan yn ddyletswydd arnom ni fel oedolion, gweithwyr proffesiynol a gwleidyddion i ymateb i’w her a gwneud popeth o fewn ein gallu i atal hyn rhag digwydd eto, yn hytrach na galw am fwy fyth o ymchwiliadau."
"Dyma’r amser i weithredu. Heddiw, rydym yn cyhoeddi adolygiad ymarfer plant cyfiawnder trwy ein dewrder."
---
Mewn ymateb, dyweddod llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu cyhoeddi ‘Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder’, sef adroddiad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru mewn ymateb i droseddau Neil Foden."
"Mae’r cyngor yn derbyn holl ganfyddiadau’r adroddiad adolygiad ymarfer plant; yn cymryd cyfrifoldeb am y methiannau sy’n cael eu hamlygu; yn ymddiheuro’n gwbl ddidwyll i’r holl ddioddefwyr ac yn ymrwymo i barhau i weithio er mwyn gwella trefniadau diogelu yn ysgolion y sir."
"Yn Ionawr 2025, mewn ymateb i’r troseddau hyn, mabwysiadodd Cyngor Gwynedd gynllun gweithredu i gryfhau gweithdrefnau mewn ysgolion ac yng ngwasanaethau’r cyngor a sefydlwyd bwrdd i oruchwylio’r gwaith allweddol yma."
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: "Mae hwn wedi bod yn achos ysgytwol sydd wedi achosi gymaint o niwed i fywydau plant."
"Rydym wedi ein ffieiddio gan y manylion sydd wedi eu hamlygu gan yr adolygwyr annibynnol ac rydym yn cymryd cyfrifoldeb am y camgymeriadau a’r cyfleodd a fethwyd gennym i atal Neil Foden."
"Ar ran y cyngor, rydw i’n ymddiheuro i bawb sydd wedi dioddef ac yn talu teyrnged i'w dewrder a’u cryfder."
"Mae’r dasg o adfer y sefyllfa yn lleol wedi dechrau. I yrru’r gwaith allweddol yma yn ei flaen, rydym wedi sefydlu bwrdd rhaglen dan gadeiryddiaeth yr Athro Sally Holland, sy’n awdurdod yn y maes gofal cymdeithasol ac yn gyn-Gomisiynydd Plant Cymru."
"Mae arbenigwyr diogelu plant o sefydliadau cenedlaethol hefyd yn bresennol yn holl gyfarfodydd y Bwrdd fel sylwebyddion sy’n rhoi mewnbwn gwerthfawr."
"Byddwn yn mynd drwy’r adroddiad efo crib mân i adnabod y camau pellach sydd angen eu cymryd fel nad ydi camgymeriadau yn cael eu hail-adrodd."
"Ni fyddwn yn cuddio o’n cyfrifoldeb i wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu plant – nawr ac i’r dyfodol."
Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, dirprwy arweinydd ac aelod y cabinet plant a chefnogi teuluoedd: "Rydw i'n croesawu’r adroddiad ac rydw i'n datgan fy edmygedd i'r dioddefwyr a’r goroeswyr, ac yn ychwanegu fy niolch am eu gwydnwch."
"Yn sgil cyhoeddi adroddiad ‘Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder’ rydym yn ymrwymo i wella a chryfhau ein trefniadau diogelu er budd holl blant Gwynedd.”
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, aelod y cabinet dros addysg: "Fyddwn ni byth yn anghofio’r niwed a’r effaith pellgyrhaeddol mae hyn wedi ei gael ar fywydau plant a ddylai fod wedi bod yn ddiogel yn yr ysgol."
"Ni allwn newid y gorffennol, ond byddwn yn parhau i gydweithio gyda arweinyddiaeth newydd a llywodraethwyr Ysgol Friars i gefnogi cymuned yr ysgol i ymdopi gyda'r hyn sydd wedi digwydd."
"“Rydym wedi ymrwymo i ddysgu o’r sefyllfa drychinebus hon ac i sicrhau fod ysgolion Gwynedd yn ddiogel a chefnogol i ddysgwyr a staff. Rydym yn barod wedi gwneud cynnydd yn y maes ac mae ein trefniadau lleol yn llawer mwy cadarn nag yr oeddent cyn i’r troseddwr gael ei arestio."
“Mae llawer i’w wneud eto a byddwn yn gweithredu ar bob arweiniad pellach sy’n deillio o adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder."
"Yr her i'r Adran Addysg ydi sicrhau fod gwersi yn cael eu dysgu fel na all unigolion twyllodrus byth eto fanteisio ar fannau gwan mewn systemau a phrotocolau lleol a chenedlaethol.”
Dywedodd Dafydd Gibbard, prif weithredwr Cyngor Gwynedd: "Mae’r cyfrifoldeb am nifer o’r methiannau sy’n cael eu hamlygu yn yr adroddiad hwn yn gorwedd gyda Chyngor Gwynedd ac rydym yn ymddiheuro’n gwbl ddidwyll i’r holl ddioddefwyr am hynny."
"Rydym yn talu teyrnged iddynt am eu dewrder a’u cryfder."
"Er mor boenus ydi’r adroddiad i’w ddarllen, rydym yn ei groesawu ac yn derbyn yr holl gasgliadau ac argymhellion."
"Mewn sefyllfaoedd lle mae sefydliad dan y chwyddwydr, mae tuedd weithiau i fod yn amddiffynnol. Rwyf yn addo heddiw na fydd Cyngor Gwynedd yn gwneud hynny. Ni fyddwn yn cuddio o’n cyfrifoldeb i wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu plant nawr ac i’r dyfodol."
--
Mewn datganiad, dyweddod Gareth Evans, prif gwnstabl cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Yn gyntaf, byddwn unwaith eto yn cydnabod dewrder a chryfder y bobl ifanc a ddaeth ymlaen a siaradodd yn erbyn troseddau erchyll Neil Foden."
"Mae eu gweithredoedd dewr, trwy gydol yr ymchwiliad troseddol a nawr yr adolygiad hwn, heb amheuaeth wedi atal rhagor o ddioddefwyr cam-drin Foden. Fe wnaethant hefyd alluogi ein tîm ymroddedig o swyddogion i archwilio’n drylwyr i sicrhau ei fod yn wynebu cyfiawnder am ei droseddau."
"Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod cyfleoedd wedi'u colli i ddiogelu'r bobl ifanc hyn drwy'r ymateb diogelu amlasiantaethol ac rydym yn ymddiheuro am hyn."
"Mae'n anhygoel bod y plant hyn wedi profi cymaint o niwed yn nwylo rhywun a ddylai fod wedi eu hamddiffyn a'u diogelu."
"Mae'n amlwg bod Neil Foden dros flynyddoedd lawer wedi trin systemau, prosesau, a'r rhai o'i gwmpas, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol, i hwyluso ei droseddau ffiaidd yn erbyn plant mwyaf agored i niwed."
"Mae ei weithredoedd heb amheuaeth wedi arwain at effaith hirdymor ar yr holl bobl ifanc hynny a ddarostyngwyd i’w ymddygiad dros gyfnod hir o amser."
"Ar ôl ceisio'n rhagweithiol yr adolygiad ymarfer plant, rydym yn croesawu ei gyhoeddiad heddiw ac yn cefnogi'r canfyddiadau yn llawn."
"Rydym wedi chwarae rhan weithredol yn y broses ac rydym yn ddiolchgar i'r tîm adolygu am eu hymchwiliad trylwyr."
"Er nad ydynt yn argymhellion penodol ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, mae hwn yn gyfle i ni wella ein hymateb diogelu amlasiantaethol ac felly rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod yr ystod o argymhellion yn cael eu gweithredu'n llawn."
"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod diogelu pobl ifanc yng Ngogledd Cymru wrth wraidd ein gwaith a'n hystyriaeth hollbwysig."
"Rydym wedi ymrwymo i ddilyn unrhyw linell ymholiad pellach i daflu goleuni ar droseddoldeb Foden."
"Mi fyddwn i'n annog unrhyw un sydd wedi profi camdriniaeth gan Neil Foden neu unrhyw un sydd â phryderon ehangach am ddiogelwch i wneud adroddiad i'r heddlu. Mi fyddwn i'n gwrando arnoch chi, yn eich cefnogi ac yn ymchwilio'n llawn."
---
Mewn datganiad gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dyweddod Angela Wood, cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth: "Fel partner allweddol i Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru, mae'r bwrdd iechyd yn flin iawn am yr hyn y mae'r bobl ifanc hyn wedi'i brofi ac rydym yn cydnabod y cryfder maen nhw wedi'i ddangos i siarad allan."
"Mae diogelu plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed yn flaenoriaeth sylfaenol i'r bwrdd iechyd."
"Mae'r adolygiad ymarfer plant hwn yn dystiolaeth o gymhlethdod y gwaith a wnaed a'r craffu sydd wedi digwydd i gefnogi ei ganfyddiadau. Mae'n atgyfnerthu pa mor bwysig yw'r sgyrsiau diogelu hynny a phwysigrwydd mecanweithiau cyfathrebu da wrth weithio gyda phlant, pobl ifanc a'n hasiantaethau partner."
"Mae'r adolygiad yn darparu dysgu allweddol i bob asiantaeth ac mae'r Bwrdd Iechyd yn derbyn a bydd yn gweithredu'r ddau argymhelliad sy'n benodol i'r sefydliad yn llawn. Mae'r gwaith tuag at wneud hyn eisoes wedi dechrau a bydd yn cryfhau'r ystod lawn o fesurau diogelu sydd eisoes ar waith."
"Byddwn hefyd yn cefnogi ac yn ymgysylltu'n llawn â'n partneriaid a Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i weithredu'r argymhellion ehangach a nodwyd yn yr adolygiad hwn."
"Rydym yn herio ein hunain i ymdrechu'n barhaus i wella ein ymyriadau diogelu ledled y sefydliad. Mae'n hanfodol bod yr holl bartneriaid yn dysgu o'r adolygiad hwn ac yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i sicrhau bod y gwelliannau yn cael eu gwneud yn gyflym."
--
Dywedodd Jenny Williams a Nicola Stubbins, cyd-gadeiryddion y bwrdd: "Ar ran Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru a'r holl asiantaethau sy'n rhan o'r adolygiad hwn, rydym yn cynnig ymddiheuriad diffuant i'r dioddefwyr ac yn cydnabod y dylai pethau fod wedi cael eu gwneud yn wahanol gan y rhai sy'n gyfrifol am ddiogelu plant."
"Mae gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru’r cyfrifoldeb statudol i gynnal adolygiadau ymarfer plant mewn achosion pan fo cam-drin neu esgeulustod plentyn yn hysbys neu'n cael ei amau."
"Mae partneriaid diogelu’n gwasanaethu plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn eu hamddiffyn rhag niwed ac i ddarparu’r gofal a’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt i’w cadw’n ddiogel ac yn iach."
"Pan fydd achos trallodus fel hwn yn digwydd, mae'n hanfodol ein bod yn deall yn llawn a oes unrhyw fesurau pellach sydd angen eu cymryd i wella neu gryfhau ein trefniadau diogelu."
"Gyda’r gofid mwyaf y bu’n rhaid i’r bwrdd wneud y penderfyniad anodd i ohirio cyhoeddi’r adolygiad ymarfer plant, ‘Ein Dewrder a Ddaeth â Chyfiawnder’, ond rydym yn falch ein bod yn gallu cyhoeddi heddiw."
"Mae'r dioddefwyr a'u teuluoedd a gafodd eu niweidio gan Foden wrth wraidd yr adolygiad hwn ac mae'r tîm yn dymuno cydnabod eu dewrder a'u cryfder anhygoel wrth gymryd rhan i sicrhau bod eraill yn cael eu diogelu yn y dyfodol."
"Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn deall yn llawn yr amgylchiadau a ragflaenodd droseddu Foden a rôl ein gwasanaethau fel y gallwn sicrhau bod ein trefniadau diogelu mor effeithiol â phosibl."


Gwobr y Brenin i Ganolfan Bodedern
Trefor Lloyd Hughes wedi marw yn 77 oed
Lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladwyr ifanc
Ymateb i gyhoeddiad Wylfa SMR
Foden: cyngor 'yn amlinellau’r camau nesaf'