Bydd gwaith hanfodol yn dechrau fis nesaf i leihau erydiad arfordirol yn Ninas Dinlle, ger Caernarfon.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn lleihau uchder y grwyn fel rhan o ymdrechion parhaus i gefnogi prosesau arfordirol naturiol ac i wella symudiad graean ar hyd y draethlin.
Mae'r grwyn yn helpu i reoli erydiad arfordirol trwy arafu symudiad deunydd traeth - fel tywod, cerrig mân a graean - ar hyd y draethlin.
Pwrpas gostwng lefel y grwyn yw caniatáu i’r graean symud yn rhwyddach i'r rhan o’r traeth i'r gogledd o'r strwythurau.
Yn ôl CRC, disgwylir i'r symudiad cynyddol hwn helpu i arafu cyfradd yr erydiad sy'n effeithio ar y rhan honno.
Mae'r gwaith wedi'i gynllunio i aflonyddu cyn lleied ag sydd bosib, ac nid oes angen cau unrhyw lwybrau troed.
Bydd un cloddiwr a lori dympio’n gwneud y gwaith a bydd yn cymryd tua phedwar diwrnod i'w gwblhau. Er y bydd y gweithgaredd i’w weld o fewn y pentref, ni ddisgwylir iddo fod yn ymwthiol.
Dyweddod Keith Evens, rheolwr gweithrediadau rheoli dŵr CNC: "Rydym wedi ymrwymo i reoli’r draethlin yn Ninas Dinlle mewn ffordd sy’n gweithio gyda phrosesau naturiol lle bynnag y bo modd."
"Bydd addasu uchder y grwyn yn helpu i gefnogi symudiad naturiol graean, sy'n chwarae rhan allweddol wrth amddiffyn y glannau rhag erydiad."
"Rydym yn deall y gallai fod gan drigolion lleol gwestiynau, a hoffem sicrhau’r gymuned mai gwaith byrdymor yw hwn, sydd wedi’i gynllunio’n ofalus, a bydd yn cael ei fonitro’n agos i sicrhau’r canlyniad amgylcheddol gorau."
Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd CNC yn monitro'n agos sut mae'r traeth yn ymateb. Os yw gwaith monitro’n dangos bod lleihau maint y grwyn yn cael effaith negyddol ar symudiad graean neu amodau traethau lleol, bydd CNC yn ei adfer i'w lefel bresennol.


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor
Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi