Ap newydd i oedolion ag anableddau dysgu

Wednesday, 25 February 2026 14:26

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae ap newydd wedi'i lansio'n arbennig ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yng Ngwynedd.

Bydd ap ConnectMi yn cynnig ffordd symlach a fwy hygyrch i oedolion ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gael mynediad at wybodaeth a chefnogaeth hanfodol.

Mae'r gwasanaeth wedi cael ei ddatblygu gan Gyngor Gwynedd gyda chyllid gan Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd a chefnogaeth arbenigol gan cwmni. Heretothere.

Bydd ap ConnectMi yn dod a gwybodaeth a chefnogaeth gan wasanaeth Llwybrau Llesiant - yn ogystal a gwasanaethau allanol - at ei gilydd mewn un lle i wneud bywyd bob dydd yn symlach i ddefnyddwyr gwasanaeth.

Dywedodd un o ddefnyddwyr y gwasanaeth: "Dw i'n hoffi'r ap, dw i'n edrych arna fo bob nos Sul i weld beth sydd ar wythnos yma, mae o'n hawdd i ddefnyddio ac yn helpu fi."

Pwrpas prosiect Llwybrau Llesiant gan wasanaeth anabledd dysgu Cyngor Gwynedd yw i ddatblygu potensial oedolion gydag anableddau. Bydd yr ap yn cefnogi hyn gan wneud gwybodaeth yn glir, cyson ac yn hawdd ei chyrraedd ac felly yn helpu i hyrwyddo annibyniaeth y defnyddiwr. 

Mae rhai o nodweddion yr ap yn cynnwys:

  • Calendr byw o ddigwyddiadau ar draws Gwynedd i oedolion ag anableddau dysgu.
  • Hysbysiadau a negeseuon atgoffa uniongyrchol i ffôn y defnyddiwr.
  • Dolenni cyswllt uniongyrchol â thîm Llwybrau Llesiant .Gall defnyddwyr neu deuluoedd cysylltu i ofyn cwestiynau, gofyn am gymorth neu gadarnhau manylion heb orfod chwilio am rifau neu gyfeiriadau.
  • System adborth syml ac ar unwaith, gan alluogi defnyddwyr i rannu eu profiadau ar ôl mynychu gweithgareddau neu ddigwyddiadau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, aelod y cabinet dros oedolion, iechyd a llesiant: "Rwyf yn falch iawn o weld lansiad ap fydd yn adnodd pwysig ar gyfer Oedolion ag Anabledd dysgu eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol."

"Ar hyn o bryd mae gwybodaeth am amserlenni, newidiadau a chyfleoedd yn aml yn cael ei rhannu mewn gwahanol leoedd. Gall hyn arwain at gamddealltwriaeth, straen, a theimlad o golli allan."

"Mae'r ap yn dod â'r cyfan at ei gilydd mewn un lle syml, gan sicrhau bod pawb - defnyddwyr, teuluoedd a staff - yn cael yr un wybodaeth ar yr un pryd."

"Rwyf yn annog defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i lawrlwytho'r ap gan fanteisio ar yr adnodd newydd yma."

Gellir lawrlwytho ap ConnectMi yn rhad ac am ddim ar unrhyw ddyfais glyfar gan ddefnyddio'r côd 82557. 

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Gwyn Owen

    10:00am - Noon

    Join Gwyn for two hours of music to finish the morning

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'