Mae dyn wedi cael ei garcharau am ymosod ar swyddog heddlu ym Mangor.
Yn llys ynadon Llandudno, plediodd Roland Doano, 47 oed, yn euog i ymosod ar weithiwr o'r gwasanaethau brys.
Cafodd Doano ei arestio yn dilyn adroddiadau o ffrwgwd yn yr orsaf fysiau yn y ddinas ddydd Iau.
Daeth yn ymosodol yn y ddalfa a chiciodd swyddog yn ei frest.
Cafodd Doano, sydd heb gartref sefydlog, ei ddedfrydu i 16 wythnos yn y carchar.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Jamie Owens o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae trais yn erbyn gweithwyr brys yn gwbl annerbyniol, ac ni fyddwn byth yn ei oddef yma yng Ngwynedd."
"Mae ein swyddogion yn dod i'r gwaith bob dydd i gadw'r cyhoedd yn ddiogel, ac maen nhw'n haeddu cyflawni eu dyletswyddau heb ofn rhywun yn ymosod arnyn nhw."
"Byddwn yn parhau i gymryd camau cadarn yn erbyn unrhyw un sy'n bygwth diogelwch ein swyddogion neu'r gymuned ehangach."


De Gwynedd yn rhan o Eisteddfod Genedlaethol 2027
Cynllun adfywio Amlwch yn mynd rhagddo
Chwe ymgeisydd yn isetholiad Ynys Gybi
Llangefni: gwaith nwy sylweddol yn dechrau
Dirwy i gyn-reolwr am werthu tybaco anghyfreithlon