Bydd chwe ymgeisydd yn sefyll yn isetholiad Cyngor Môn ar Ynys Gybi fis nesaf.
Cafodd yr etholiad ei sbarduno yn dilyn marwolaeth y cynghorydd profiadol a chyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Trefor Lloyd Hughes, ym mis Tachwedd, yn 77 oed.
Dyma'r rhestr lawn o ymgeiswyr:
- Nick Bounds - Plaid Werdd Cymru
- Ceflyn Furlong - Reform UK
- Margaret John - Ceidwadwyr Cymreig
- Bethan Jones - Plaid Cymru
- Mary Roberts - Lafur Cymru
- Robert Williams - Annibynnol
Cynhelir yr isetholiad ddydd Iau 5 Chwefror gyda'r bleidlais ar agor rhwng 7yb a 10yh.


Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir