Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu

Friday, 9 October 2026 23:23

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Wynedd a boerodd at swyddogion heddlu wedi cael ei garcharu am chwe mis.

Poerodd Dylan Parry Jones ar gwnstabl a throethi'n fwriadol y tu mewn i gerbyd heddlu yn dilyn ei arestio ddydd Llun. Yna achosodd ddifrod i gell tra oedd yn y ddalfa.

Yn Llys Ynadon Llandudno, plediodd Jones, 30 oed ac heb gyfeiriad parhaol, yn euog i ymosod ar gwnstabl wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau, a dau gyhuddiad o ddifrod troseddol yn dilyn ei arestio ddydd Llun.

O ganlyniad, gweithredwyd dedfryd ohiriedig a osodwyd arno am droseddau blaenorol ac fe'i dedfrydwyd i 30 wythnos yn y carchar.

Dyweddod Arolygydd Ardal Iwan Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae unrhyw gamdriniaeth at weithwyr y gwasanaethau brys yn gwbl annerbyniol ac ni fydd yn cael ei goddef."

"Mae ein swyddogion yn dod i’r gwaith i gadw’r cyhoedd yn ddiogel, ac maent yn haeddu cyflawni eu dyletswyddau heb gael eu hymosod."

"Byddwn yn parhau i gymryd camau cadarn yn erbyn unrhyw un sy’n bygwth diogelwch ein swyddogion neu’r gymuned ehangach."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Zowie a Dai

    4:00pm - 7:00pm

    Tiwns gwych, digon o chwerthin ac ambell beth annisgwyl...

Wedi Chwarae / Previously Played

  • 4:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice

    MônFM
  • 3:55pm

    Every Little Thing She Does Is Magic

    Police
  • 3:52pm

    Dance Away

    Roxy Music
FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'