Mae'r heddlu, sy'n ymchwilio i farwolaeth babi merch ym Mangor wedi apelio ar gerddwyr i ddod ymlaen.
Mae'r awdurdodau hefyd yn parhau â'u chwiliad am fam y baban newydd-anedig, ar ôl i'w chorff gael ei ddarganfod ger y lan fis diwethaf.
Yr arwyddion cychwynnol yw gallai fod wedi bod yn y dŵr am hyd at ychydig wythnosau, ond mae profion yn parhau.
Mae llinell ffôn uniongyrchol wedi cael ei sefydlu ar gyfer mam y baban i geisio cymorth arbenigol, ond hyd yn hyn, nid yw hi wedi dod ymlaen.
Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn apelio ar unrhyw un a fu’n cerdded ar hyd Ffordd Siliwen ac Chaeau Ashley, Bangor rhwng dydd Mercher 30 Awst a dydd Sul 27 Medi i gysylltu â nhw.
Dywedodd Uwcharolygydd Llinos Davies: "Mae swyddogion yn parhau i weithio’n ddi-baid er mwyn cynnal ymholiadau lleol ac ymgysylltu efo arbenigwyr cenedlaethol er mwyn pennu’r hyn ddigwyddodd i’r baban bach."
"Mi ofynnir i unrhyw un sydd efo lluniau neu fideos a dynnwyd ar neu o gwmpas glan y Fenai yn Siliwen rhwng 30 Awst a 27 Medi i’w llwytho i’r porth digwyddiadau difrifol cyhoeddus."
"Mi all unrhyw lun fod yn berthnasol i’n hymchwiliad ni, hyd yn oed os ‘da chi’n meddwl efallai ei fod yn ddibwys, mi gaiff ei adolygu er mwyn cadarnhau a ydy o werth tystiolaethol i’n hymholiadau ni."
Mewn apêl uniongyrchol arall at y fam, ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Davies: "’Da ni’n deall efallai bod gynno chi ofn dod atom ni, ond ‘da ni’n erfyn arnoch chi i gysylltu efo ni. Mae eich lles chi yn parhau i fod o bwys i ni."
"’Da ni wedi gosod rhif ffôn yn arbennig ar eich cyfer, er mwyn i chi ffonio am help gan arbenigwr a all eich helpu mewn modd cyfrinachol. Os gwelwch yn dda, os welwch chi’r neges hon, ffoniwch neu anfonwch neges destun i 07974 241223."
"Pan fyddwch chi’n ffonio, mi fyddwch yn siarad yn uniongyrchol ag arbenigwr hyfforddedig a’i rôl ydy gwrando, deall a helpu. Nid oes angen bod ofn y sgwrs hon. Cewch eich trin â thosturi, urddas a pharch."
"Os ydy’n teimlo’n rhy anodd i wneud yr alwad, ystyriwch siarad efo rhywun ‘da chi’n ymddiried ynddyn nhw. Ffrind, aelod o'r teulu, cymydog, gofalwr iechyd proffesiynol, neu unrhyw un all eich helpu chi i ofyn am help."
Os oes gynnoch chi unrhyw bryderon uniongyrchol, cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu Ymgyrch Melex neu drwy'r gwefan arbennig sydd wedi creu mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.
Fel arall, cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu gwasanaeth Ymholiadau a Datrys Pobl gan bwrdd Betsi Cadawaladr ar 03000 851 234 rhwng 10yb a 4yp o ddydd Llun i ddydd Gwener.


Carcharu dyn ar ôl dod o hyd i gocên mewn car
Ymosodiad ar famog ym Mhenrhos Feilw
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Ailddechrau hediadau Hawk yn dilyn damwain hyfforddi