Bydd dros £9.2 miliwn yn cael ei wario ar wella cysylltiadau trafnidiaeth lleol ar draws Ynys Môn a Gwynedd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd grantiau o'r Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol yn helpu i ddarparu systemau modern a chynaliadwy i helpu pobl i symud o gwmpas yn haws.
Bydd £1.5 miliwn yn cael ei wario ar ddatblygu llwybr cerdded a beicio gweithredol ym Menllech - lle mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar gynlluniau diwygiedig.
Yng Ngwynedd, bydd gwasanaethau bws gwledig fel Sherpa'r Wyddfa yn derbyn ychydig dros £1 miliwn.
Ar draws Cymru, mae bron i £116 miliwn wedi'i ddyrannu i awdurdodau lleol - gyda thua hanner y cyllid yn cael ei wario ar gynlluniau 'teithio llesol'.
Bydd cyllid hefyd yn cael ei wario ar wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, diogelwch ffyrdd a gwella pwyntiau gwefru cerbydau trydan.
Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru, a fydd yn rhedeg am y pum mlynedd nesaf, yn cael ei oruchwylio gan cyd-bwyllgor corfforedig (CJC).
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates: "Mae darparu gwell trafnidiaeth a chysylltu cymunedau i bawb wrth wraidd y buddsoddiad hwn sydd werth £115 miliwn."
"Rydym am ei gwneud hi'n haws i bobl deithio i'r gwaith, i'r ysgol, gofal iechyd ac i weld ffrindiau a theulu, a hefyd adeiladu system drafnidiaeth mwy modern, cynaliadwy ac integredig ledled Cymru er budd cenedlaethau'r dyfodol."
"Mae ein hymrwymiad i ddull un tîm yn seiliedig ar wybodaeth leol a'n hymddiriedaeth yn ein partneriaid; y CJCs, Awdurdodau Lleol, Trafnidiaeth Cymru, a rhanddeiliaid ehangach, er mwyn sicrhau bod yr arian hwn yn creu'r manteision mwyaf."
"Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaethau gwirioneddol i deithiau bob dydd - boed hynny'n lwybrau mwy diogel, llwybrau gwell ar gyfer cerdded, olwyno a beicio, neu gysylltiadau aml-ddull mwy dibynadwy."

Ble fydd yr arian yn cael ei wario?
Cerdded, olwyno a beicio
- Ynys Môn
- annog teithio cynaliadwy: gwelliant Cylchfan Four Crosses ar yr A5025/ B5420: £100,000
- llwybrau diogel mewn cymunedau/ cludiant cartref i'r ysgol: £100,000
- teithio llesol Llanfairpwll (Lôn Refail i Lôn Graig): £100,000
- teithio llesol Malltraeth i Niwbwrch: £85,000
- teithio llesol Benllech: £1.5 miliwn
- teithio llesol Gaerwen: £130,000
- teithio llesol Amlwch (cam 1 a cham 2 ar y B5111): £150,000
- mân waith teithio llesol a datblygu cynlluniau: £500,000 - Gwynedd
- cwblhau cyllun Ffordd Penrhos, Bangor: £800,000
- cwblhau cyllyn Chwilog i Afonwen: £900,000
- gwaith datblygol pellach ar gynllun Tywyn i Aberdyfi: £200,000
- cyllid craidd datblygol: £500,000
Trafnidiaeth gyhoeddus
- Ynys Môn
- integreiddio â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus strategol, gwelliannau i seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus: £250,000
- rhwydwaith bysiau a choetsys gwledig rhanbarthol: £50,000
- teithiau tacsi â chymhorthdal mewn ardaloedd gwledig i lenwi "bylchau" mewn trafnidiaeth gyhoeddus: £50,000 - Gwynedd
- gweithredu'r rhwydwaith trawsnewid bysiau Gwynedd (gwelliannau i'r seilwaith bysiau): £500,000
- rhwydwaith bysiau a choetsys gwledig rhanbarthol Gwynedd (gwasanaethau Sherpa'r Wyddfa, G23 a 2 Fflecsi): £1.04 miliwn
Priffyrdd
- Ynys Môn
- Gwydnwch Safleoedd Lairds Heol Biwmares (B5109) a'r A454 Heol Biwmares: £150,000
- prosiect gwydnwch ffordd yr A5 (Pentre Berw): £50,000
- Cyfnewidfa Drafnidiaeth Niwbwrch: £150,000 - Gwynedd
- gwelliannau trafnidiaeth Llanbedr: £400,000
- gwelliannau gwydnwch y rhwydwaith trafnidiaeth, gwelliannau lliniaru llifogydd ar yr A499 Heol Penrhos: £200,000
- prosiect Porth Caernarfon (Porth): £120,000 - - cynnal a chadw a gwelliannau priffyrdd, Gwynedd (A4085 Waunfawr i Gaeathro): £400,000
Diogelwch ar yr ffyrdd
- Ynys Môn
- gwelliannau i ddigwyddiadau priffyrdd: £500,000
- ymyriadau addysgol: £40,000 - Gwynedd
- gwelliannau capasiti a diogelwch/ gwelliannau mannau cyfyng: safleoedd clystyrau gwrthdrawiadau: £300,000
- llwybr diogel i'r Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog: £240,000
- ymyriadau addysgol: £73,800
Cerbydau allyriadau isel lawn
- Ynys Môn - gwefru cerbydau trydan cyhoeddus mewn meysydd parcio cyhoeddus a chydlynu gwybodaeth: £350,000
- Gwynedd - gwella gwefru cerbydau trydan yn gyhoeddus a chydlynu gwybodaeth: £100,000


Enwau lleoedd cudd yn dod i'r amlwg
Pum dyn yn osgoi carchar am ddwyn gwartheg
Porthladd Rhydd Môn 'yn symud i'r cam cyflawni'
Gwasanaethau plant yn wynebu 'pwysau cynyddol' - addrodiad
Rhybudd heddlu ar ôl lladradau olew