Mae lladradau olew gwresogi yng Ngwynedd ac Ynys Môn wedi cynyddu ers dechrau'r flwyddyn, yn ôl ditectifs.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio preswylwyr a pherchnogion busnes i fod yn wyliadwrus o weithgarwch amheus.
Mae swyddogion wedi cael gwybod ynglŷn â lladradau o ardaloedd Caernarfon, Pwllheli, Cricieth, Amlwch a Rhosneigr yn y tri mis diweddar.
Maen nhw'n gofyn i berchnogion ystyried y camau canlynol i amddiffyn eu tanc olew:
- Gosodwch glo clap neu gap llenwi cloadwy ar eich tanc olew
- Diogelwch y tanc olew o fewn cawell
- Gosodwch giatiau cloadwy
- Gosodwch fesurydd electronig, sy’n cychwyn larwm pan mae lefel yr olew yn gostwng
- Gosodwch oleuadau diogelwch ger lleoliad y tanc
- Gosodwch gamerâu TCC
Os oes gynno chi unrhyw wybodaeth ynglŷn â lladradau olew, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.


Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir