Dau ddyn wedi marw ar yr Wyddfa

Saturday, 21 February 2026 12:57

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Phil Brandon Hunter)

Mae dau ddyn ifanc wedi marw ar ôl mynd ar goll ar yr Wyddfa.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod cyrff dyn 19 oed a dyn 20 oed wedi cael eu darganfod yn dilyn ymgyrch chwilio fawr ddydd Iau.

Nid yw'r ddau wedi cael eu henwi'n gyhoeddus, ond mae eu teuluoedd wedi cael gwybod.

Cafodd pryderon am les y dynion eu hadrodd ddydd Mercher, gan sbarduno chwiliad mawr yn cynnwys timau achub mynydd o Lanberis, Aberglaslyn a'r Awyrlu mewn tywydd gaeafol.

Cafodd criwiau o SARDA (cŵn chwilio ac achub) a Gwylwyr y Glannau hefyd eu hanfon i chwilio yr ardal tan oriau mân fore Iau.

Yn dilyn ailddechrau'r chwiliad tua 8am fore Iau, cafodd cyrff y dau ddyn eu lleoli a’u hadfer.

Dyweddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mae’r ddau bellach wedi’i hadnabod yn ffurfiol, ac mae eu teuluoedd wedi cael gwybod."

"Mae’r crwner wedi’i hysbysu, a gofynnwn i breifatrwydd y teuluoedd gael ei barchu ar yr adeg anodd hon."

Dywedodd Jurgen Dissman, cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis: "Hoffwn ymestyn ein cydymdeimlad dwysaf i deuluoedd ac anwyliaid y ddau ddyn sydd wedi colli eu bywydau."

"Cafodd y tîm eu galw gan Heddlu Gogledd Cymru a lansiodd ymgyrch aml-asiantaeth helaeth mewn amodau gaeafol llawn."

"Bu gwirfoddolwyr yn chwilio ar draws tir mynyddol heriol mewn eira a rhew, gan weithio oriau hir drwy’r nos mewn amodau tywydd anodd mewn ymdrech i ddod o hyd i’r ddau cyn gynteg â phosib."

"Er gwaethaf ymrwymiad penderfynol a pharhaus pawb dan sylw, rydym yn drist iawn nad yw’r canlyniad, er gwaethaf yr holl ymdrechion, yr hyn yr oeddem yn ei obeithio."

"Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’n cydweithwyr o dîm achub mynydd Aberglaslyn, gwasanaeth achub mynydd yr Awyrlu, SARDA a Gwylwyr y Glannau am eu cymorth amhrisiadwy drwy gydol y digwyddiad yma."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Gwyn Owen

    10:00am - Noon

    Join Gwyn for two hours of music to finish the morning

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'