Enwau lleoedd cudd yn dod i'r amlwg

Saturday, 21 March 2026 12:59

By Ystafell Newyddion MônFM

Hawlfraint y Goron Croeso Cymru

Mae enwau lleoedd hanesyddol sydd heb eu cofnodi hyd yma yn cael eu casglu mewn sesiynau cymunedol yn Ynys Môn ac Eryri.

Mae dros 7,000 o enwau wedi cael eu hychwanegu at y rhestr genedlaethol o ddwy ardal yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Ar hyn o bryd, mae Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru yn cynnwys fwy na 715,000 o gofnodion, sy'n rhoi cipolwg ar hanes Cymru a'i hiaith.

Mae ei guradur, Dr James January-McCann, wedi bod yn cynnal sesiynau cymunedol i gofnodi enwau lleoedd sy'n bodoli yn y cof lleol ond nad ydynt erioed wedi'u cofnodi'n ffurfiol.

Dywedodd: "Mae cysylltiad cynhenid rhwng enwau lleoedd ac ymdeimlad cymuned o le a'i hunaniaeth. Trwy eu casglu cyn iddynt gael eu colli, rydym yn sicrhau bod y trysorau ieithyddol a diwylliannol hyn, a'r wybodaeth y maent yn ei grynhoi, yn goroesi."

Mae'r gwaith bellach wedi ymestyn i Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda sesiynau pellach wedi'u cynllunio ledled Cymru dros y flwyddyn i ddod.

 

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae enwau lleoedd hanesyddol yn ffenestr i'r grymoedd ieithyddol, cymdeithasol a hanesyddol sydd wedi siapio Cymru dros ganrifoedd."

"Ar ôl eu colli, mae'n amhosibl eu hadfer. Mae'r sesiynau hyn yn hanfodol i gofnodi enwau sy'n dal i gael eu cofio fel y bod modd iddyn nhw barhau i gael eu gweld, eu clywed a'u defnyddio."

Mae Dr January-McCann hefyd yn paratoi pecyn cymorth i ganiatáu i grwpiau cymunedol gynnal eu sesiynau annibynnol eu hunain a chyflwyno enwau a gasglwyd yn uniongyrchol i'r rhestr.

Gall unrhyw un chwilio am enwau lleoedd ar fap ar-lein y rhestr, a gallant gyflwyno eu henwau lleoedd eu hunain drwy ddefnyddio offeryn cofnodi enwau lleol ar-lein Llywodraeth Cymru a lansiwyd yn ddiweddar.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    5:00pm - 8:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'