Foden wedi ‘rhwystro’ ymchwiliad yn erbyn athro arall

Tuesday, 27 January 2026 13:32

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Roedd y cyn-brifathro a’r pedoffeil Neil Foden wedi “rhwystro” ymchwiliad i gyhuddiadau difrifol yn erbyn athro arall yn ei ysgol, yn ôl swyddog undeb.

Dywedodd Colin Adkins ei fod wedi derbyn cofnodion o gyfarfod strategol yn ddamweiniol a bod cynnwys y cofnodion wedi ei “ddychryn”.

Daw sylwadau Mr Adkins mewn rhaglen ddogfen newydd ar droseddau cyn-bennaeth Ysgol Friars ar S4C nos Fawrth.

“Roedd cyhuddiadau difrifol bod athro wedi cael perthynas gwbwl amhriodol honedig gyda phedwar o ddisgyblion, un oedd yn dyddio ‘nôl o leiaf dair blynedd,” meddai Mr Adkins.

“Yn amlwg, mae unrhyw berthynas rywiol rhwng athro a disgybl nid yn unig yn gwbl amhriodol, mae’n gam-driniaeth rhywiol.”

Yn ôl Mr Adkins, nid oedd y cyfarfod strategol wedi cymryd y camau priodol.

“Wrth i mi ganolbwyntio ar yr ystyriaethau a gafodd eu cyflwyno yn y cyfarfod, fe welais yn glir bod Foden wedi manipiwleiddio’r broses i rwystro’r cyhuddiadau hyn rhag cael eu hymchwilio’n annibynnol,” ychwanegodd Mr Adkins.

Nid oedd y corff llywodraethol yn ymwybodol o’r cyhuddiadau yn erbyn yr athro.

Mae Bryn Jones yn newyddiadurwr fu’n ymchwilio i’r cyhuddiadau.

Dywed Mr Jones bod cyhuddiad arall yn erbyn athro gwahanol ei fod wedi “cael sws efo disgybl ysgol” ar noson allan, er ei fod yn gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Daeth y newyddiadurwr ymchwiliadol i ddeall bod yr athro wedi cael ymddiswyddo gyda geirda ar ôl dod i gytundeb gyda Neil Foden y byddai ymchwiliad y llywodraethwyr yn dod i ben cyn ei gwblhau.

“O’dd o ddim yn gweld dim dyfodol iddo fo yn Friars [yr ysgol lle oedd Foden yn bennaeth] achos do’dd Neil Foden, o’dd o ddim yn meddwl, yn mynd i roi chwarae teg iddo fo,” meddai Mr Jones.

“Doedd o ddim isho bod yna, ac felly ar sail hynny nath o benderfynu ‘Reit, dwi am adael’."

“Y prif beth oedd yn dod allan oedd, boed o’n deud y gwir neu beidio, o’dd o ‘di gallu mynd hefo reference, heb i’r broses disgyblu orffen, so heb iddyn nhw edrych mewn iddo fo’n iawn.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio i honiadau o gam-drin gan Neil Foden ac wedi arestio dau ddyn arall yn sgil yr ymchwiliad yn 2025.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd am gam-drin rhywiol yn erbyn merched rhwng 2019 a 2023.

Yn ôl adroddiad beirniadol ym mis Tachwedd, roedd gwendidau mawr o ran diogelu gan awdurdodau lleol.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Mid-Week Smooth

    11:00pm - Midnight

    Join Dai Sinclair for an hour of Smooth music to finish the night on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'