Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn

Saturday, 28 February 2026 08:06

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae Cyngor Ynys Môn yn parhau i wella ansawdd ac effeithlonrwydd ynni ei stoc tai

Mae Gwasanethau Tai y cyngor sir yn rheoli dros 4,000 o gartrefi gyda'r gyrfan uchaf yng Ngahergybi (30%) a Llangefni (14%).

Yn 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chanllawiau SATC (Safonau Ansawdd Tai Cymru) diweddaraf ar gyfer ansawdd, diogelwch, perfformiad ynni ac allyriadau carbon cartrefi cymdeithasol.

Ar draws Cymru, mae angen i bron i chwarter miliwn o gartrefi fodloni'r safonau gofynnol erbyn 2034, gan sicrhau eu bod yn ddiogel, wedi'u cynnal a'u cadw'n dda, yn fforddiadwy i'w gwresogi ac wedi'u cynllunio i gefnogi lles.

Mae mesurau ychwanegol yn cynnwys systemau awyru gwell i atal damp a llwydni, larymau mwg yn y prif ystafelloedd byw a gorchuddion llawr addas pan fydd tenantiaid yn newid eiddo.

Yn lleol, cafodd 499 o systemau solar pv a storio batris eu gosod er mwyn lleihau costau ynni ac allyriadau carbon y llynedd. Hefyd, cafodd 456 o geginau newydd eu ffitio yn ogystal â gwelliannau cysylltiedig.

Mae mwy o waith gosod ynni adnewyddadwy wedi ei drefnu ar gyfer 2026 yn Amlwch, Llannerchymedd, Bodedern, Y Fali a Chaergeiliog; ac mae'r rhaglen fuddsoddi ar gyfer 2026/2027 yn cynnwys gwaith cynnal a chadw a diweddaru effeithlonrwydd ynni mewn 20 o gartrefi ychwanegol.

Mae'r cyngor hefyd yn ceisio sichrau bod mwy o gartrefi fforddiadwy ar gael gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl leol.

Fel yr oedd pethau'n sefyll yn Chwefror 2026, roedd 941 cais actif ar y gofrestr dai, gydag ymgeiswyr yn gorfod disgwyl cyfartaledd o 448 diwrnod.

Yn ystod 2025-26, mae 20 tŷ cyngor blaenorol wedi dod yn ôl i ddefnydd - yn cynnwys rhai llety cymorth dros dro ar gyfer pobl sy'n wynebu digartrefedd - ac mae eiddo newydd hefyd wedi'u prynu.

Cafodd 267 o gartefi eu dyrannu gyda 93% yn mynd i ymgeiswyr gyda chysylltiad lleol ag Ynys Môn yn ystod 2024-25.

Mae 239 o gartrefi wedi eu dyrannu, gyda 94% ohonynt yn mynd i ymgeiswyr gyda chysylltiad lleol, yn ystod 2025-26 hyd at ddiwedd yr trydydd chwarter.

Mae cartrefi'n cael eu dyrannu drwy system fandio sy'n seiliedig ar yr angen am dŷ, ac mae'n amrywio o flaenoriaeth brys i band 3, ac mae ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn polisi dyrannu'r cyngor.

Dyweddod Ned Michael, pennaeth gwasanaeth tai Cyngor Môn: "Wrth cydweithio gyda'n fforwm tenantiaid, rydym wedi ymrwymo i wneud gwelliannau ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn ar gyfer ein tenantiaid."

"Mae hyn yn cynnwys buddsoddi yn ein diweddariadau ynni i leihau costau i aelwydydd, gwella ansawdd ein cartrefi a sicrhau bod eiddo yn cael eu hail-osod yn gyflym i'r rheini sydd eu hangen fwyaf."

"Mae'r galw am dai cymdeithasol dal yn uchel iawn, ac felly rydym yn gweithio i gynyddu ein cyflenwad lle bo'n bosibl, gan ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd effeithlon, a sicrhau bod tai yn cael eu dyrannu'n deg ac yn unol â'r angen am dai a chysylltiad lleol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Carwyn Jones, sy'n deilio portffolio tai: "Mae tai o ansawdd yn hollbwysig wrth gefnogi cymunedau iach a chynaliadwy."

"Mae'r cynnydd rydym wedi ei grybwyll uchod yn dangos ymrwymiad cryf y cyngor i ddarparu tai diogel, modern a fforddiadwy ar gyfer pobl leol ledled Ynys Môn."

"Mae blaenoriaethu ymgeiswyr gyda chysylltiadau lleol yn helpu i gryfhau ein cymunedau a sicrhau bod y buddion a ddaw wrth fuddsoddi yn aros yn lleol."

"Gyfochr â hyn, bydd parhau i weithio ar effeithlonrwydd ynni yn cefnogi ein amcan ehangach i leihau allyriadau carbon a symud at ddyfodol sero net."

"Rydym wedi ymrwymo i wneud buddsoddiadau parhaus, hirdymor yn ein tai a'n gwasanaethau, lle bo'n bosibl, i sicrhau bod trigolion yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael cefnogaeth ac yn falch o'r cartref a'r broydd lle maen nhw'n byw."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Tracy Austin

    6:00am - 7:00am

    Tracy's back on MônFM playing loads of great songs.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'