House of the Dragon yn hedfan i Ogledd Cymru

Tuesday, 17 March 2026 13:54

By Ystafell Newyddion MônFM

HBO

Bydd trydydd cyfres 'House of the Dragon' yn cynhyrchu hyd at £6.7 miliwn i'r economi, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Cafodd y cynhyrchiad llwyddiannus ei ffilmio ar leoliad yn Ynys Môn, Conwy a Gwynedd yn ystod haf 2025.

Ymhlith y lleoliadau ffilmio roedd Pier Biwmares ar Ynys Môn, Craig yr Undeb yng Ngwynedd a Ffynnon Llugwy, llyn trawiadol ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Y tu ôl i'r camera, cynigiwyd lleoliadau â thâl i 12 o hyfforddeion ar lefel mynediad, gan weithio mewn rolau fel gwisgoedd, addurno set a phropiau, camera a sain.

Rhoddwyd rolau uwchsgilio i bump arall, a rhoddodd cynllun cysgodi First Break dan arweiniad Sgil Cymru a Crew HQ gyfle i chwech o bobl weithio ar draws gwahanol adrannau.

Ochr yn ochr â'r hyfforddiant, cynigiodd y tîm ar lawr gwlad wers Gymraeg i holl aelodau'r criw ddysgu ymadroddion sylfaenol a chynhaliodd bwt-camp swyddogion lleoliadau lle cofrestrodd pobl leol ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

Dywedodd Kevin De La Noy, uwch cynhyrchydd y gyfres: "Roedd cast a chriw House of the Dragon yn falch iawn o ddychwelyd i Gymru, i dirwedd a lleoliad sy'n ychwanegu cymaint o bŵer gweledol a dimensiwn bywiog i'r straeon."

Derbyniodd ail a thrydydd tymor y ddrama Gyllid Cynhyrchu gan Cymru Greadigol, gyda £674,600 wedi'i ddarparu ar gyfer y trydydd gyfres.sy'n cynnwys Matt Smith, Emma D'Arcy, Olivia Cooke a Rhys Ifans yn y cast sy'n dychwelyd.

Ychwanegodd Jack Sergeant, y gweinidog creadigol: "Mae'r cynhyrchiad hwn yn dod â harddwch Gogledd Cymru i sgriniau ledled y byd ac yn cryfhau enw da Cymru ymhellach fel cyrchfan ffilmio flaenllaw."

"Mae ein buddsoddiad yn cefnogi swyddi, sgiliau a hyfforddiant lleol wrth ddarparu manteision economaidd sylweddol i'r rhanbarth. Rydym yn ddiolchgar i HBO am y cyfleoedd a grëwyd i bobl yng Ngogledd Cymru, yn enwedig y rhai sy'n dechrau gyrfaoedd ym maes teledu a ffilm."

Bydd tymor 3 House of the Dragon ar gael i'w wylio ar HBO Max o fis Mehefin.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'