Mae’r heddlu yn apelio am dystion yn dilyn difrod i gerbyd yn Niwbwrch.
Yn ôl ditectifs, riportiwyd bod tri llanc ifanc wedi cael eu gweld yn lluchio blociau concrît at gar yn ardal Stryd y Capel tua 4.30yp ar ddydd Iau 22 Ionawr.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy’r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 26000060846.
Nid oes unrhyw fanylion pellach ar gael ar hyn o bryd.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr