Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn symud i 'statws cyflenwi' yn dilyn cytundeb allweddol.
Mae Cyngor Ynys Môn wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, fel rhan o ymgyrch fawr i ddenu buddsoddiad a chreu swyddi.
Yn ôl y cyngor, mae'r cytundeb yn datgloi gwerth £25 miliwn o gyllid ac mae'n golygu fod y Porthladd Rhydd yn gallu symud i fod yn llawn weithredol erbyn y Gwanwyn.
Mae dau gynllun porthladd rhydd wedi'u creu yng Nghymru - mae'r llall wedi'i leoli yn Aberdaugleddau a Chastell-nedd Port Talbot - lle mae busnesau'n elwa o ryddhad treth a chymhellion eraill sydd wedi'u cynllunio i ddenu buddsoddiad a chreu swyddi o ansawdd uchel.
Dyweddod Dylan J Williams, prif weithredwr Cyngor Môn: "Yn sgil hyn, bydd yr holl bartneriaid yn dod at ei gilydd ac yn ymrwymo ar y cyd i greu cyfleoedd newydd, buddsoddiad a swyddi sgiliau uchel ar gyfer ein cymunedau."
"Mae'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn darparu'r fframwaith sydd ei angen arnom i weithio'n effeithiol â'r ddwy lywodraeth, Stena Line a phartneriaid eraill wrth i ni edrych ymlaen yn hyderus at y cam cyflawni yn ddiweddarach eleni."
"Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn gyfle sylweddol ac mae'r cytundeb ffurfiol heddiw yn atgyfnerthu ein gallu i wireddu'r uchelgeisiau hynny."
Dyweddod Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru: "Mae newyddion heddiw yn foment arwyddocaol o ran cyflawni Porthladd Rhydd Ynys Môn a fydd yn hanfodol ar gyfer rhoi hwb i dwf economaidd. Rhagwelir y bydd 5,000 o swyddi yn cael eu creu erbyn 2030."
"Mae hyn yn dilyn cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU am niwclear newydd ar gyfer Wylfa ac Ardal Twf AI Gogledd Cymru, a fydd gyda'i gilydd yn drawsnewidiol i bobl gogledd Cymru, ac yn darparu cyfleoedd am genedlaethau i ddod."

Mae gwaith paratoi eisoes yn mynd rhagddo, gan gynnwys trefniadau llywodraethu, dynodi safleoedd treth ac ymgysylltu â thirfeddianwyr.
Ym mis Chwefror, cymeradwywyd cynlluniau ar gyfer safle 'porth' ar safle hen ffatri gemegol Eastman Peboc ar gyrion Llangefni.
Bydd y cynllun yn creu 223 o swyddI gyda'r cyngor yn bwriadu prynu'r safle ac ehangu mynediad i'r ystâd ddiwydiannol Tregarnedd.
Bydd yn un o chwe safle trethi a thollau ar yr ynys - gan gynnwys Parc Ffyniant newydd ar hen safle Alwminiwm Ynys Môn yng Nghaergybi, parc busnes Parc Gybi gerllaw, tir M-SParc yng Ngaerwen, hen ddepo olew Shell yn Rhosgoch a hen ffatri Octel yn Amlwch.
Mae arweinydd Cyngor Môn yn dweud bod y cytundeb yn nodi "filltir bwysig o ran gwireddu cyfleoedd economaidd newydd ar gyfer yr ynys".
Dwyeddod y Cynghorydd Gary Pritchard: "Mae'r cytundeb yn cadarnhau ymrwymiad ar y cyd gyda'r ddwy lywodraeth, a Stena Line, i sefydlu Porthladd Rhydd sy'n gallu denu buddsoddiad, cefnogi arloesi a chreu swyddi sgiliau uchel ar gyfer cymunedau lleol."
"Mae sicrhau cyllid sbarduno yn gam pwysig iawn gan ei fod yn golygu y gellir mynd ati i wneud gwaith cychwynnol hanfodol, ac mae'n arwydd o hyder ym mhotensial strategol Ynys Môn."
"Gyda'r sylfaen hwn wedi'i sefydlu gall y cyngor a phartneriaid eraill gyflymu cynlluniau sy'n cryfhau rôl yr ynys yn y meysydd ynni, gweithgynhyrchu a masnach, a chynorthwyo i hyrwyddo ffyniant hirdymor yn Ynys Môn a Gogledd Cymru."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer y pedair blynedd nesaf hyd at 2030, gan baratoi'r chwe safle treth ar gyfer buddsoddiad gan y sector preifat.
Dyweddod Rebecca Evans, Ysgrifennydd yr Economi: "Mae'r buddsoddiad hwn o £25 miliwn yn dangos ymrwymiad ein llywodraeth i sicrhau dyfodol economaidd Ynys Môn a sicrhau bod manteision penderfyniadau mawr Llywodraeth y DU a Llywodraeth Lafur Cymru yn cael eu teimlo yma ar yr ynys."
"Drwy roi seilwaith critigol yn ei le nawr, rydym yn sicrhau bod Ynys Môn mewn sefyllfa i fanteisio i'r eithaf ar y Porthladd Rydd, y momentwm newydd yn Wylfa, a chyfleoedd Ardal Twf AI Gogledd Cymru."
"Mae hon yn neges glir: rydym yn arfogi cymunedau Cymru â'r offer sydd eu hangen arnynt i gystadlu, i ddenu swyddi o ansawdd uchel, ac i siapio'r diwydiannau a fydd yn diffinio economi'r dyfodol."

Bydd y Porthladd Rhydd yn canolbwyntio ar arloesedd, ynni carbon isel a masnach ryngwladol, gyda'r nod o hybu gweithgarwch economaidd, lleihau allfudo a chefnogi'r iaith Gymraeg yn lleol.
Mae Stena Line, sy'n berchen ar Borthladd Caergybi, sy'n rhedeg y cynllun gyda'r cyngor, sy'n rheoli'r cyllid gan y Llywodraeth.
Ychwanegodd Ian Hampton, cadeirydd gweithredol Stena Line UK: "Rydym yn croesawu bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cymeradwyo memorandwm cyd-ddealltwriaeth Porthladd Rhydd Ynys Môn."
"Mae'r cyhoeddiad hwn yn nodi cychwyn cam gweithredol Porthladd Rhydd Ynys Môn ac mae'n y dilyn gwaith a wnaed hyd yma i sicrhau statws Porthladd Rhydd, cwblhau ein hachosion busnes a pharatoi ein safleoedd treth i dderbyn buddsoddiad."
"Rydym yn ddiolchgar i lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus a byddwn yn parhau i weithio gyda'r ddwy lywodraeth a holl bartneriaid y Porthladd Rhydd i wireddu ein gweledigaeth o ddarparu swyddi a thwf economaidd ar gyfer Ynys Môn a Gogledd Cymru, yn ogystal â gwarchod yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig."


Enwau lleoedd cudd yn dod i'r amlwg
Pum dyn yn osgoi carchar am ddwyn gwartheg
Gwasanaethau plant yn wynebu 'pwysau cynyddol' - addrodiad
Cyllid i hybu cysylltiadau trafnidiaeth lleol
Rhybudd heddlu ar ôl lladradau olew