Mae pum dyn wedi osgoi carchar am ddwyn gwartheg gwerth dros £20,000 o fferm ger Llanerch-y-medd.
Mi gafodd cyfanswm o 14 o wartheg eu dwyn o sied mewn ardal wledig ac anghysbell toc cyn hanner nos ar 10 Rhagfyr 2022.
Cafodd y da byw eu harcwhilio gan eu perchennog a'u cadw yn y sied, ond pan ddeath y ffermwr yn ei ôl y bore canlynol, roedd rhai o’r gwartheg yn rhydd.
Gan ddefnyddio lluniau TCC a phrofion DNA, llwyddodd ditectifs i leoli'r gwartheg ar fferm arall yn Stoke.
Mi wnaeth y swyddogion ymchwilio adnabod Liam Kettleborough (29), Michael McLeod (57), Stanley Jones (26) a Jack Billington (23) yn teithio efo’i gilydd mewn fan agored Toyota o Wrecsam i Ynys Môn.
Yno, mi gasglodd Kettleborough a Jones lori agored nodweddiadol, gyda storfa wedi’i lwytho a’i glymu ar y cefn.

Mi lwythodd y ddau y gwartheg - oedd wedi’u dewis yn gynharach y diwrnod hwnnw - ar y lori, wrth i Billington a McLeod ddisgwyl gerllaw yn y fan agored. Mi ddatgelodd ymholiadau manwl, gyda chymorth TCC, y ddau gerbyd yn teithio gyda’i gilydd yn ôl i gyfeiriad Wrecsam.
Mi arweiniodd ymholiadau pellach yr heddlu i fferm wartheg yn Stoke, yn perthyn i Clifford Smith (65), i le roedd y gwartheg wedi’u dwyn wedi’u danfon y diwrnod canlynol.
Ym mis Ebrill 2023, mi gyflawnodd y swyddogion ymchwilio nifer o warantau chwilio, gan gynnwys ar fferm Clifford Smith, lle gafwyd hyd i’r gwartheg wedi’u dwyn.
Mi adnabuwyd y dioddefwr – oedd yn bresennol ar adeg y gwarant - ei wartheg ei hun ymysg cannoedd o wartheg eraill. Mi gadarnhawyd hyn yn ddiweddarach drwy brofion DNA.

Llwyddodd yr heddlu i gysylltu'r cerbyd â Kettleborough. Cafodd ei arestio, ac wrth ddadansoddi ei ffôn daeth yr heddlu o hyd i negeseuon rhyngddo ef a’r pedwar diffynnydd arall.
Mi ddatgelodd profion pellach bod dwy o’r gwartheg wedi geni lloeau ar ôl cael eu dwyn. Mi gafodd y lloeau hefyd eu dychwelyd i’r dioddefwr.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn credu bod y gwartheg oedd wedi’u dwyn wedi cael eu dethol yn benodol er mwyn cymryd lle stoc marw Smith yn dwyllodrus.
Dwyeddod Cwnstabl Michelle Allsup, y swyddog ymwchwilio: "Mae lladradau o’r fath yn anghyffredin, ond maen nhw’n cael effaith ariannol ac emosiynol sylweddol ar fusnesau a theuluoedd, yn aml yn gwneud i gymunedau cefn gwlad deimlo’n fregus ac o dan fygythiad."
"Er bod y dioddefwr wedi cael iawndal ariannol drwy ei gwmni yswiriant a chyda cymorth NFU Mutual, wnaeth ofalu am y gwartheg yn ystod yr ymchwiliad, mi roedd effaith ehangach y drosedd hwn yn helaeth."
"Mi roedd rhai o’r gwartheg oedd wedi’u dwyn yn disgwyl lloeau ar y pryd, a rhai eraill wedi’u nodi ar gyfer bridio."
"O ganlyniad, mi orfodwyd y dioddefwr i ailddechrau’r broses bridio, gan achosi oedi mewn geni’r lloeau ar gyfer eu gwerthu, ac yn effeithio ar ei incwm disgwyliedig ar gyfer y flwyddyn honno."
“Mae’r ymchwiliad hwn yn dangos ein hymrwymiad i erlid yr unigolion sy’n targedu cymunedau cefn gwlad, a sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau bod yn le diogel er mwyn byw a gweithio."
Plediodd y pum dyn yn euog i gynllwynio i gyflawni lladrad. ac yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, dedfrydwyd y grŵp:
- Jack Billington o Yr Orsedd, Wrecsam: 14 mis o garchar wedi'i ohirio am 18 mis. Gorchmynnwyd i gwblhau 250 awr o waith di-dâl a gofyniad gweithgaredd adsefydlu 10 diwrnod. Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am flwyddyn a gorchmynnwyd iddo dalu iawndal o £1000
- Stanley Jones o Pentre Brychdyn, Wrecsam: 19 mis o garchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd. Gorchmynnwyd i gwblhau 200 awr o waith di-dâl a gofyniad gweithgaredd adsefydlu 10 diwrnod, ac i dalu iawndal o £1000
- Michael McLeod o Llai: ddedfryd o 19 mis yn y carchar, wedi’i ohirio am 12 mis, am gynllwynio i gyflawni byrgleriaeth gyda’r bwriad o ddwyn. Mae’n gorfod cydymffurfio â chyrffiw am chwe mis, ac mae’n rhaid iddo dalu £500 yn iawndal i’r dioddefwr.
- Liam Kettelborough o Rugby, Swydd Warwick: 19 mis o garchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd. Gorchmynnwyd i gwblhau 250 awr o waith di-dâl a gofyniad gweithgaredd adsefydlu 10 diwrnod, ac i dalu iawndal o £1000
- Clifford Smith o Crewe, Swydd Gaer: pum mis o garchar wedi'i ohirio am flwyddyn. Gorchmynnwyd i gwblhau gofyniad gweithgaredd adsefydlu 25 diwrnod a blwyddyn o ofyniad triniaeth iechyd meddwl a hefyd dalu iawndal o £200.
Dywedodd Andrew Warman o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd yn rhaid dod â thystiolaeth o wahanol ffynonellau ynghyd yn yr achos hwn.
“Roedd yr ymchwiliad yn drylwyr iawn, ac roedd hynny’n golygu bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gallu cyflwyno tystiolaeth gref oedd yn dangos sut yr oedd pob unigolyn wedi chwarae rhan yn y drosedd.
“Mae troseddau gwledig yn cael effaith sylweddol ar gymunedau, gan effeithio ar fywoliaeth pobl, ac mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd troseddau o’r fath o ddifri.”
Yn dilyn y ddedfrydu, bydd S4C yn darlledu rhifyn arbennig o'r gyfres ddogfen Y Llinell Las sy'n canolbwyntio ar ymchwiliad yr heddlu.
Bydd Lladron Gwartheg yn cael ei ddangos nos Lun am 9.25pm ar S4C ac ar gael ar-lein ar Clic a BBC iPlayer.


Enwau lleoedd cudd yn dod i'r amlwg
Porthladd Rhydd Môn 'yn symud i'r cam cyflawni'
Gwasanaethau plant yn wynebu 'pwysau cynyddol' - addrodiad
Cyllid i hybu cysylltiadau trafnidiaeth lleol
Rhybudd heddlu ar ôl lladradau olew