Storiel yn ddathlu 200 mlwyddiant Pont y Borth

Tuesday, 17 March 2026 11:28

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae canolfan Storiel ym Mangor wedi lansio arddangosfa newydd i nodi 200 mlynedd ers agor Pont y Borth.

Mae'r arddangosfa yn cynnig cipolwg ar sut mae'r bont eiconig wedi ei darlunio dros y canrifoedd, gan ddefnyddio eitemau o gasgliad Storiel megis printiau topograffig, arteffactau, a sampler nodwydd o'r bont sy'n dyddio o'r 19eg ganrif.

Yn rhan o'r arddangosfa mae model trawiadol pum troedfedd o hyd o'r bont sydd wedi ei dylunio a'i hadeiladu gan Steve Guinness drwy ddefnyddio 10,000 o ddarnau Lego.

Roedd Steve - a elwir hefyd yn 'The Brick Consultant' - yn enillydd ar raglen 'Lego Masters' ar Channel 4 ac mae'n adnabyddus am ei frwdfrydedd dros greadigrwydd ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf wrth ddysgu drwy chwarae.

Bydd Steve hefyd yn cynnal gweithdy am ddim i deuluoedd ddydd Sadwrn 28 Mawrth - mae'n ofynool arechbu lle o flaen llaw.

Mae Storiel yn galw ar drigolion o Wynedd i ymweld â'r arddangosfa a rhannu eu hatgofion a'u cysylltiadau personol â'r bont.

Gellir cyfrannu drwy rannu delweddau, straeon o bwys, neu hyd yn oed luniau priodas gyda'r bont yn y cefndir.

Gall ymwelwyr hefyd roi cynnig ar adeiladu eu pont Lego eu hun yn ystod eu hymweliad.

Dros yr wythnosau diwethaf mae sawl gweithdy Lego wedi eu cynnal gyda ysgolion lleol, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc yr ardal ddysgu am beirianneg pontydd.

Meddai'r Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod y cabinet dros chymuned ar Cyngor Gwynedd: "Mae Storiel yn ased diwylliannol pwysig ym Mangor, sy'n cynnig cyfle i drigolion Gwynedd archwilio eu hanes a'u treftadaeth drwy gasgliadau ac arddangosfeydd."

"Mae'r arddangosfa yn gyfle euraidd i nodi a dathlu 200 mlwyddiant Pont y Borth, i ddysgu am y campwaith, a chael blas ar gasgliad Storiel sy'n gysylltiedig â'r bont. Mae'n gyfle gwych hefyd i gasglu a nodi atgofion fydd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf."

"Gwnewch y mwyaf o'ch ymweliad i Storiel drwy archwilio'r amgueddfa a'r orielau, neu alw draw am baned i'r caffi sydd wedi ail-agor yn ddiweddar."

Mae'r arddangosfa, Delweddau Pont Grôg y Borth, ar agor yn yr oriel gymunedol bob dydd tan ddydd Sadwrn 11 Ebrill ac mae mynediad i Storiel am ddim.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'